Mumbai

Mumbai
Mathmega-ddinas, prifddinas y dalaith, dinas, metropolis, business cluster Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMumba Edit this on Wikidata
Poblogaeth15,414,288 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1507 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIqbal Singh Chahal Edit this on Wikidata
Cylchfa amserIndian Standard Time Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolKonkan Edit this on Wikidata
SirMaharashtra Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd603 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr14 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau19.0758°N 72.8775°E Edit this on Wikidata
Cod post400001 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Mumbai, Municipal Commissioner of Mumbai Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIqbal Singh Chahal Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas talaith Maharashtra yng ngorllewin India a phrif borthladd a chanolfan economaidd India yw Mumbai (Marathi: मुंबई, Mumbaī, IPA:[ˈmumbəi], hen enw hyd at 1995: 'Bombay'). Dyma'r ddinas fwyaf poblog yn India a'r ail ddinas fwyaf poblog yn y byd, gyda phoblogaeth o tua 15,414,288 (2018), ac mae poblogaeth Mumbai Fwyaf (sy'n cynnwys yr ardal fetropolitan cyfagos) oddeutu 22,885,000 (2016)[1][2]. Lleolir Mumbai ar arfordir gorllewinol India a cheir yno harbwr sy'n naturiol ddwfn. Mae Mumbai yn ymdrin â dros hanner cargo morol yr India.

Mae'n borthladd pwysig iawn ac yn ddinas sydd wedi gweld tyfiant economaidd aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf; serch hynny anwastad yw dosbarthiad y buddiannau economaidd a nodweddir y ddinas gan gyferbyniaethau trawiadol rhwng y da eu byd a'r tlodion niferus. Yn 2008, enwyd Mumbai yn un o ddinasoedd alpha'r byd.[3][4] Mae ganddi fwy o filiwnyddion a biliwnyddion nag unrhyw ddinas arall yn India gyfan.[5][6]

Mae gan y ddinas nifer o adeiladau bric coch o gyfnod y Raj, e.e. y brif orsaf reilffordd yng nghanol y ddinas. Mae "Porth India", yr heneb a godwyd i nodi ymweliad y brenin Siôr V ym 1911, yn symbol o'r ddinas. Dros y dŵr ym Mae Mumbai mae nifer o henebion Bwdhaidd hynafol i'w cael ar Ynys Elephanta.[7][8]

Mumbai yw prifddinas arian, masnach ac adloniant India.[9] Mae hefyd yn un o ddeg canolfan fasnach orau'r byd o ran llif-arian byd-eang,[10] gan gynhyrchu 6.16% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) India[11], ac mae'n cyfrif am 25% o allbwn diwydiannol, 70% o fasnach forwrol India (Ymddiriedolaeth Porthladd Mumbai a JNPT), a 70% o drafodion cyfalaf economi India.[12][13][14]

  1. http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
  2. "Provisional Population Totals, Census of India 2011; Cities having population 1 lakh and above" (PDF). Office of the Registrar General & Census Commissioner, India. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 7 Mai 2012. Cyrchwyd 26 Mawrth 2012.
  3. "The World According to GaWC 2008". Globalization and World Cities Study Group and Network (GaWC). Prifysgol Loughborough. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2011. Cyrchwyd 7 Mai 2009.
  4. "Mumbai | ISAC". Indiastudyabroad.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mai 2015. Cyrchwyd 29 Mai 2015.
  5. Bharucha, Nauzer (9 Mawrth 2015). "Thirty of India's 68 billionaires live in Mumbai". The Times of India. Mumbai. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2015. Cyrchwyd 10 Mawrth 2015.
  6. "With 68 billionaires, India ranks 7th globally; Mumbai leads in India with 30". Daily News and Analysis. New Delhi. 10 Mawrth 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2015. Cyrchwyd 10 Mawrth 2015.
  7. Curzon, G.N. Complete book online – British Government in India: The Story of Viceroys and Government Houses. Cyrchwyd 22 Mawrth 2019.
  8. Douglas, James. Complete book online – Bombay and western India – a series of stray papers, with photos of Ajmer. London: Samson Low Marston & Co. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-25. Cyrchwyd 22 Mawrth 2019.
  9. Lakshmi, Rama (14 Ebrill 2011). "New millionaires hope to serve as role models for India's lower castes". The Washington Post. Mumbai. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mehefin 2015. Cyrchwyd 23 Mehefin 2015.
  10. "Mumbai, a land of opportunities". The Times of India. 20 Gorffennaf 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Awst 2014. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2011.
  11. "Mumbai Urban Infrastructure Project". Mumbai Metropolitan Region Development Authority (MMRDA). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Chwefror 2009. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2008.CS1 maint: unfit url (link)
  12. "10 worst oil spills that cost trillions in losses : Rediff.com Business". Rediff.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Awst 2010. Cyrchwyd 16 Awst 2010.
  13. "Development of Mumbai International Airport (NMIA)" (PDF). CIDCO. 2013. t. 7. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 Awst 2014. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2015.
  14. Mahajan, Poonam (26 Gorffennaf 2014). "Poonam Mahajan explains why Mumbai is at the very heart of India story". DNA India. Mumbai. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mehefin 2015. Cyrchwyd 21 Mehefin 2015.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search