Nicola Sturgeon

Nicola Sturgeon
Nicola Sturgeon


Cyfnod yn y swydd
20 Tachwedd 2014 – 28 Mawrth 2023

Dirprwy Brif Weinidog yr Alban
Cyfnod yn y swydd
17 Mai 2007 – 19 Tachwedd 2014

Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban
Cyfnod yn y swydd
5 Medi 2012 – 19 Tachwedd 2014

Arweinydd yr SNP
Deiliad
Cymryd y swydd
14 Tachwedd 2014

Geni 19 Gorffennaf 1970(1970-07-19)
Irvine, Gogledd Swydd Ayr
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Priod Peter Murrell
Alma mater Prifysgol Glasgow

Gwleidydd o Albanes yw Nicola Sturgeon (ganwyd 19 Gorffennaf 1970) a wasanaethodd fel Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban rhwng 2014 a 2023. Cyn hynny bu'n Ddirprwy Brif Weinidog rhwng 17 Mai 2007 a 19 Tachwedd 2014.[1] Ar 15 Chwefror 2023 cyhoeddoedd ei fod am ymddiswyddo fel prif weinidog ac arweinydd yr SNP wedi i olynydd gael ei ethol.[2]

Bu'n aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (neu'r SNP) ers oedd yn 16 oed. Mae hefyd yn Arweinydd y blaid honno (a adnabyddir hefyd fel yr 'SNP') ac yn Ddepute (neu Ddirprwy) 2004-2014. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Stategaeth y Senedd a'r Llywodraeth ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Isadeiledd, Buddsoddiad a Dinasoedd. Hi yw'r Aelod Senedd yr Alban (MSP) dros Glasgow (Deheuol).[3]

Ym 1999 y daeth Sturgeon yn Aelod Seneddol yn gyntaf, gan ddod yn Llefarydd yr SNP dros iawnderau ac yna dros iechyd ac addysg. Yn dilyn ymddeoliad John Swinney yn 2004 safodd yn y frwydr dros arweinyddiaeth y blaid, ond tynnodd ei henw'n ôl pan benderfynodd Alex Salmond ymgeisio a daeth yn Ddirprwy (neu Depute). Safodd Salmond i lawr rhwng 2004 a 2007 a phenodwyd Sturgeon yn Arweinydd nes y daeth Salmond yn ei ôl i gymryd yr awenau yn etholaeth cyffredinol 2007 pan enillodd yr SNP fwy o seddau nac unrhyw blaid arall yn yr Alban. Apwyntiwyd Salmond yn Brif Weinidog ac apwyntiodd ef ei Ddirprwy: Sturgeon.

  1. "BBC News - The transition from Alex Salmond to Nicola Sturgeon". BBC News. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2014.
  2. Nicola Sturgeon yn ymddiswyddo fel prif weinidog Yr Alban , BBC Cymru Fyw, 15 Chwefror 2023.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-02. Cyrchwyd 2017-06-04.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search