Nissan Leaf

Nissan Leaf
Nissan Leaf (USA)
Trosolwg
GwneuthurwrNissan
Enw arallVenucia e30 (Tsieina)
Cynhyrchu2010–presennol
GosodJapan: Oppama, Tochigi, Yokohama
Unol Daleithiau: Smyrna, Tennessee
Deyrnas Unedig: Dinas Sunderland (Nissan Motor Manufacturing UK)
Corff a siasi
DosbarthCar bychan
Math o gorffhatchback 5-drws
TrefnInjan a gyriant yn y ffrynt
LlwyfanLlwyfan EV Nissan
Pwer
Modur trydan80 kW (110 hp), 280 N⋅m (210 ft⋅lb) peiriant cydamserol (synchronous motor)[1]
TrosglwyddiadSingle speed constant ratio (7.94:1)[2]
BatriBatri lithium ion 24 kW·h
Pelltermodel 2011/12
117 km (73 mi) Asiantaeth Amgylchedd Unol Daleithiau America
175 cilometr Cylch Gyrru Newydd Ewrop
model 2013
121 km (75 mi) EPA[3]
200 km (120 mi) NEDC[4]
Gorsaf bweru3.3 kW a 6.6 kW (opsiynol) 240 V AC[5] ar fewnfa o SAE J1772-2009, uch. 44 kW 480 V DC ar fewnfa CHAdeMO,[6] addaswr ar gyfer socedi AC (110-240 V)
Maint
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase)2,700 mm (106.3 in) [7]
Hyd4,445 mm (175.0 in)[7]
Lled1,770 mm (69.7 in)[7]
Uchder1,550 mm (61.0 in)[7]
Pwysau pafinmodelau 2011/12
1,521 kg (3,354 lb)[8]
2013 model
1,493 kg (3,291 lb)[9]

Car trydan bychan, hatchback ydy'r Nissan Leaf (neu "LEAF", sy'n acronym o: Leading, Environmentally friendly, Affordable, Family car)[1][10] a gynhyrchir gan Nissan. Cafodd ei gyflwyno i Japan ac Unol Daleithiau America yn Rhagfyr 2010. Lansiwyd model newydd ar 2 Hydref 2017, ac enillodd Wobr WhatCar? am y car trydan gorau, 2018 ar unwaith.[11]

Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y Nissan Leaf 7 marc allan o 10.[12] Fe'i beirniadwyd am ei bris uchel, yr angen am estyniad trydan i'w ailwefru ac am ei brinder milltiroedd. O'i blaid dywedwyd ei fod yn gar-teulu da ac mai hwn oedd y car trydan-yn-unig cyntaf i fod yn gwbwl argyhoeddiedig.

Cychwynwyd danfon y ceir i gwsmeriaid yn UDA a Japan yn Rhagfyr 2010, gyda Chanada a gwledydd Ewrop yn dynn wrth eu sodlau yn 2011, ac erbyn Gorffennaf 2014 roedd 35 o wledydd yn gwerthu'r Nissan Leaf. Dyma'r car trydan ar gyfer y teulu sydd wedi gwerthu mwyaf, gyda dros 130,000 wedi'u gwerthu erbyn Awst 2014. Erbyn Gorffennaf 2014 y gwledydd oedd wedi gwerthu'r nifer fwyaf o'r car oedd: UDA (58,000), Japan (42,000) ac Ewrop (25,000). O blith gwledydd Ewrop, Norwy sy'n arwain gyda 10,000 o unedau wedi'u gwerthu. 5,000 oedd wedi'u gwerthu yng ngwledydd Prydain. Mae'n cael ei adeiladu yng ngwledydd Prydain a mannau eraill.

  1. 1.0 1.1 Nissan. "The new car: features and specifications". Nissan USA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-13. Cyrchwyd 2011-12-13.
  2. "2012 Nissan LEAF: Specifications". Cars.com. Cyrchwyd 2012-06-26.
  3. John Voelcker (2013-02-21). "2013 Nissan Leaf gets 75-mile range (actually 84) in new EPA test". Green Car Reports. Cyrchwyd 2013-02-26.
  4. Philippe Crowe (2013-02-27). "European-Specific Nissan Leaf To Be Unveiled In Geneva". HybridCars.com. Cyrchwyd 2013-02-27.
  5. "Charging at home". USA: Nissan. Cyrchwyd 2013-08-07. [...] is easy with a 240-volt home charging dock [...] with the 6.6 kW onboard charger
  6. "Nissan DC Quick Charger". USA: Nissan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-25. Cyrchwyd 2013-08-07. 480 volts, 44 kW maximum [...] charging fully depleted Nissan LEAF (24kWh capacity) to 80% in 30 minutes [editor note: more than 40 kW will only be used on a fully depleted battery, normal charging power is around 20 kW]
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 "2011 Nissan Leaf Features & Specs". Edmunds.com. Cyrchwyd 2011-01-01.
  8. "2011 Nissan Leaf Road Test". Edmunds.com. Cyrchwyd 2011-01-01.
  9. http://www.edmunds.com/nissan/leaf/2013/features-specs.html?style=&sub=
  10. "Nissan delivers first Leaf in San Francisco". The Independent. 2010-12-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2011-05-31.
  11. nissan.co.uk; adalwyd 10 Mawrth 2018.
  12. Gweler Top Gear: New Car Buyers Gide; tud. 278.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search