Ombwdsmon

Ombwdsmon
Enghraifft o'r canlynolswydd Edit this on Wikidata
Mathbarnwr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo umboðsmanns barna, sef, Ombwdsmon Gwlad yr Iâ. Noder bod ffurf y gair yn debyg i'r gair Hen Norseg umboðsmaðr sy'n rhoi i ni'r gair Ombudsman Sweneg gyfoes

Mae ombwdsmon[1] hefyd ombwdsman[2] ac arddelir y term comisinydd hefyd yn gyffredin yn Gymraeg a'r Deyrnas Unedig i olygu eiriolwr cyhoeddus yn gyflogai gan y llywodraeth sy'n ymchwilio ac yn ceisio datrys cwynion, fel arfer trwy argymhellion (cyfrwymol neu beidio) neu gyfryngu. Fel arfer cânt eu penodi gan y llywodraeth neu gan y senedd (yn aml gyda chryn dipyn o annibyniaeth). Daw'r term "ombwdsmon" yn Gymraeg drwy'r Saesneg, "ombudsman",[3][4] sydd, ei hun yn dod o'r Swedeg Ombudsman o'r Hen Norseg umboðsmaðr. Ystyr yn ei hanfod yn golygu ‘cynrychiolydd’ (gyda’r gair umbud/ombud/ombud yn golygu ‘procsi’, ‘atwrnai’; hynny yw, rhywun sydd wedi’i awdurdodi i weithredu ar ran rhywun arall.

Mae ombwdsmyn hefyd yn ceisio nodi materion systemig sy'n arwain at wasanaeth gwael neu achosion o dorri hawliau pobl. Ar lefel genedlaethol, mae gan y rhan fwyaf o ombwdsmyn fandad eang i ymdrin â’r sector cyhoeddus cyfan, ac weithiau hefyd elfennau o’r sector preifat (er enghraifft, darparwyr gwasanaethau dan gontract). Mewn rhai achosion, mae mandad mwy cyfyngedig i sector penodol o gymdeithas. Mae datblygiadau mwy diweddar wedi cynnwys creu ombwdsmyn plant arbenigol.

Mewn rhai gwledydd, efallai y bydd gan arolygydd cyffredinol, eiriolwr dinasyddion neu swyddog arall ddyletswyddau tebyg i rai ombwdsmon cenedlaethol a gall hefyd gael ei benodi gan ddeddfwrfa. Islaw'r lefel genedlaethol, gall ombwdsmon gael ei benodi gan lywodraeth daleithiol, leol neu ddinesig. Gall ombwdsmyn answyddogol gael eu penodi gan gorfforaeth fel cyflenwr cyfleustodau, papur newydd, corff anllywodraethol, neu gorff rheoleiddio proffesiynol, neu hyd yn oed weithio i gorfforaeth.

Arwydd "Ombudsman" Banjul, yn y Gambia

Mewn rhai awdurdodaethau, cyfeirir yn fwy ffurfiol at ombwdsmon sy’n gyfrifol am ymdrin â phryderon am lywodraeth genedlaethol fel y “comisiynydd seneddol” (e.e. Comisiynydd y Gymraeg yng Nghymru, ac Ombwdsmon talaith Gorllewin Awstralia). Mewn llawer o wledydd lle mae cyfrifoldeb yr ombwdsmon yn cynnwys diogelu hawliau dynol, mae’r ombwdsmon yn cael ei gydnabod fel y sefydliad hawliau dynol cenedlaethol. Erbyn diwedd yr 20g roedd swydd yr ombwdsmon wedi'i sefydlu gan y rhan fwyaf o lywodraethau a chan rai sefydliadau rhynglywodraethol megis yr Undeb Ewropeaidd. O 2005 ymlaen, gan gynnwys lefelau cenedlaethol ac is-genedlaethol, mae cyfanswm o 129 o swyddfeydd ombwdsmon wedi'u sefydlu ledled y byd.[5]

  1. "Ombwdsmon". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
  2. "Ombudsman". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
  3. "Ombudsman". Collins English Dictionary. HarperCollins. Cyrchwyd 10 May 2019.
  4. "ombudsman" (US) and "ombudsman". Lexico UK English Dictionary. Oxford University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-22.
  5. Mahbubur Rahman, Muhammad (July 2011). BCS Bangladesh Affairs (yn Bengali). I & II. Lion Muhammad Gias Uddin. t. 46 (Vol. II).

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search