Defnyddir y term Parth Glas (Saesneg: Blue Zone) i sôn am ardal ddemograffig a/neu ddaearyddol yn y byd lle y mae llawer o bobl yn byw bywydau hir. Daeth y cysyniad o waith demograffig gan Gianni Pes a Michel Poulain,[1] a ddangosodd bod gan dalaith Nuoro yn Sardinia y crynodiad mwyaf o wŷr canmlwydd oed neu hŷn. Wrth i'r ddau ddyn ddechrau ganolbwyntio ar y pentrefi â'r hirhoedledd uchaf, rhoddon nhw gylchoedd cydganol glas ar y map a chyfeirio at yr ardal y tu mewn i'r cylchoedd fel y Parth Glas. Mae Dan Buettner yn enwi sawl man hirhoedlog: Okinawa (Japan); Sardinia (Yr Eidal); Nicoya (Costa Rica); Icaria (Gwlad Groeg); ac ymhlith Adfentyddion y Seithfed Dydd yn Loma Linda, Califfornia. Mae'n cynnig eglurhad dros hyn, wedi'i seilio ar ddata empirig a sylwadau llygad y fynnon, er mwyn esbonio pam mae gan y poblogaethau hyn fywydau iachach a hirach.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search