Pobl

Grŵp o bersonau yw ystyr y gair pobl.[1] Ym maes anthropoleg, grŵp cymdeithasol o fodau dynol sy'n rhannu nodweddion sydd yn aml yn bod y tu hwnt i ffiniau gwleidyddol yw pobl, sy'n debyg i hil, grŵp ethno-ieithyddol, grŵp ethnogrefyddol neu gasgliad o genhedloedd neu lwythau, er enghraifft y Celtiaid, y Slafiaid, a'r Arabiaid.[2]

  1.  pobl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Mehefin 2015.
  2. Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 13.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search