Math | tref, cyrchfan lan môr, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 18,890 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.331°N 3.405°W |
Cod SYG | W04000171 |
Cod OS | SJ065825 |
Cod post | LL19 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Becky Gittins (Llafur) |
Tref a chymuned ar arfordir gogleddol Sir Ddinbych, Cymru, yw Prestatyn.[1] Cyn ail-drefnu llywodraeth leol ym 1974, roedd hi'n rhan o Sir y Fflint. Mae gan y dref orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Llwybr y Gogledd yn cychwyn/gorffen yn y dref.
Lleolir Prestatyn tua 4 milltir i'r dwyrain o'r Rhyl wrth droed y cyntaf o Fryniau Clwyd. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Talacre a'r Gronant i'r dwyrain ac Allt Melyd a Diserth i'r de. Mae Caerdydd 206.3 km i ffwrdd o Prestatyn ac mae Llundain yn 301.7 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 32.2 km i ffwrdd.
Mae Prestatyn yn dref glan môr poblogaidd gyda thraeth braf sy'n estyniad o draeth enwog Y Rhyl. Gorwedd canol y dref fechan tua hanner milltir i mewn o'r traeth. Erbyn heddiw mae nifer o stadau tai newydd yno ac mae canran uchel o'r boblogaeth yn bobl wedi ymddeol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Gareth Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[3]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search