Prif Weinidog yr Alban

Prif Weinidog yr Alban
Enghraifft o'r canlynolswydd Edit this on Wikidata
Mathprif weinidog Edit this on Wikidata
Rhan oCabinet yr Alban Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu7 Mai 1999 Edit this on Wikidata
Deiliad presennolJohn Swinney Edit this on Wikidata
Deiliaid a'u cyfnodau 
  • Donald Dewar (13 Mai 1999 – 11 Hydref 2000),[1]
  •  
  • Alex Salmond (16 Mai 2007 – 19 Tachwedd 2014),[2]
  •  
  • Nicola Sturgeon (20 Tachwedd 2014 – 29 Mawrth 2023),[3]
  •  
  • Humza Yousaf (29 Mawrth 2023)
  • Enw brodorolFirst minister of Scotland Edit this on Wikidata
    Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
    Gwefanhttps://firstminister.gov.scot/ Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Prif Weinidog yr Alban (Gaeleg yr Alban: Prìomh Mhinistear na h-Alba; Sgoteg: Heid Meinister o Scotland) yw arweinydd Llywodraeth yr Alban. Mae'r Prif Weinidog yn cadeirio Cabinet yr Alban ac yn bennaf gyfrifol am lunio, datblygu a chyflwyno polisi Llywodraeth yr Alban. Mae swyddogaethau ychwanegol y Prif Weinidog yn cynnwys hyrwyddo a chynrychioli'r Alban mewn swyddogaeth swyddogol, gartref a thramor, a chyfrifoldeb am faterion cyfansoddiadol.[4][5]

    Enwebir y Prif Weinidog gan Senedd yr Alban o blith ei haelodau, ac fe'i penodir yn ffurfiol gan Frenhines Lloegr. Penodir aelodau Cabinet yr Alban a gweinidogion iau Llywodraeth yr Alban yn ogystal â swyddogion cyfraith yr Alban, gan y Prif Weinidog. Fel pennaeth Llywodraeth yr Alban, mae'r Prif Weinidog yn uniongyrchol atebol i Senedd yr Alban am eu gweithredoedd a gweithredoedd y llywodraeth ehangach.

    Hamza Yousaf o Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP) yw Prif Weinidog presennol yr Alban.[5][6]

    1. "Who have been Scotland's first ministers?" (yn Saesneg Prydain). 16 Mai 2016.CS1 maint: unrecognized language (link)
    2. "Who have been Scotland's first ministers?" (yn Saesneg Prydain).CS1 maint: unrecognized language (link)
    3. "Who have been Scotland's first ministers?" (yn Saesneg Prydain). 16 Mai 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ebrill 2017. Cyrchwyd 26 Ebrill 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
    4. "Nicola Sturgeon named as global advocate for UN gender equality campaign". BelfastTelegraph. 6 Chwefror 2019. Cyrchwyd 2 Hydref 2020. UN under-secretary-general Ms Mlambo-Ngcuka said: “It is my honour to announce today her excellency Ms Nicola Sturgeon, First Minister of Scotland, as an inaugural HeForShe global advocate for gender equality.
    5. 5.0 5.1 "About the Scottish Government > Who runs government > First Minister". Scottish Government. Cyrchwyd 2 Hydref 2020.
    6. "Nicola Sturgeon becomes Scottish first minister". BBC News. 19 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 2 Hydref 2020.

    © MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search