R. Tudur Jones

R. Tudur Jones
Ganwyd28 Mehefin 1921 Edit this on Wikidata
Cricieth Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 1998 Edit this on Wikidata
Man preswylBangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd Edit this on Wikidata

Diwinydd a hanesydd eglwysig o Gymru oedd y Parchedig Brifathro Robert Tudur Jones BA BD D.Phil D.Litt DD (28 Mehefin 192123 Gorffennaf 1998). Fe'i ganwyd yn y Tyddyn Gwyn, Rhoslan, Cricieth, yn fab hynaf i John Thomas ac Elizabeth Jones. Bu dylanwad diwygiad 1904-1905 yn drwm ar ei rieni ac felly gellir cymryd yn ganiataol bod crefydda yn fwy na defod ddiwylliannol yn unig i'r teulu. Gyda Tudur dal yn ifanc bu i ofynion gwaith orfodi'r teulu i symud i'r Rhyl, yn gyntaf i dŷ yn ymyl Pont y Foryd ac wedi hynny ymsefydlu mewn tŷ mwy ar Princes Street. Erbyn hyn roedd ganddo frawd a chwaer iau, John Ifor a Meg. Gweithio fel gard rheilffordd i'r LMS oedd ei dad ac o blegid byw'n syml, yn blaen ac yn ofalus oedd yn reidrwydd i'r teulu.

Yn y Rhyl deuai'r byd Cymraeg a Saesneg ynghyd. Saesneg oedd iaith ysgol Christ Church a diwylliant poblogaidd y dref, ond y Gymraeg oedd iaith y cartref a'r capel. Mynychu capel Carmel yr Annibynwyr oedd teulu Tudur; y gweinidog yno bryd hynny oedd T. Ogwen Griffith – gwr efengylaidd ei ogwydd oedd yn atyniad, bid siŵr, i ysbrydolrwydd rhieni Tudur. Yn y blynyddoedd cynnar yma yng Ngharmel y daeth ei ddoniau a'i allu anarferol i'r amlwg gyntaf a hynny drwy gofio ac adrodd adnodau yn y Capel. Yr arfer ar y pryd oedd i bob plentyn adrodd adnod neu ddwy; rhoes Tudur gynnig ar adrodd penodau cyfan. Bu rhaid i'w Dad roi'r caead ar y sospan pan gyhoeddodd un diwrnod ei fod am fynd ati i ddysgu'r Salm fawr o'i gof! Nododd D. Densil Morgan fod '...tynerwch ei fam (a fu farw yn gwbl annisgwyl yn 1932 yn 44 oed), cadernid ei dad a chymdeithas aelwyd a chapel yn ddylanwadau ffurfiannol arno.'


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search