Refferendwm annibyniaeth yr Alban, 2014

Gweler hefyd: Annibyniaeth yr Alban
Refferendwm annibyniaeth i'r Alban
Dydd Iau, 18 Medi 2014
A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?
Canlyniadau
Ie neu Na Pleidleisiau Canran
Ie 1,617,989 700144700000000000044.7%
Na 2,001,926 700155300000000000055.3%
Pleidl. dilys 3,619,915 700199910000000000099.91%
Annilys 3,429 69989000000000000000.09%
Cyfanswm y pleidleisiau 3,623,344 100.00%
Pleidleiswyr 700184590000000000084.59%
Etholaeth 4,283,392
Y canlyniadau yn ôl Cynghorau sir
     Ie     Na

Ar 18 Medi 2014 cynhaliodd Llywodraeth yr Alban refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban. Roedd y refferendwm yn gofyn i etholwyr yr Alban: "A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?"[1] (Saesneg: Should Scotland be an independent country?).[2] Roedd hyn yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y Deyrnas Unedig,[3] yn dilyn papur a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2013 a oedd yn gosod y seiliau.[4] ac a gymeradwywyd gan Senedd yr Alban ar 14 Tachwedd 2013 ac yn Llundain ar 17 Rhagfyr 2013.[5] Roedd angen mwyafrif (h.y. dros 50%) o'r pleidleisiau i annibyniaeth gael ei wireddu.[6][7] Canlyniad y referendwm oedd na ddylai'r Alban fod yn annibynnol gyda 1,617,989 (44.7%) o blaid a 2,001,926 (55.3%) yn erbyn. Pleidleisiodd 71% o bobl ifanc 16-17 oed dros annibyniaeth.

Hyd at 12 diwrnod cyn y refferendwm, roedd y poliau'n nodi fod y garfan dros annibyniaeth tua chwe phwynt ar ôl y Na, ond ar y 6ed o Fedi cyhoeddwyd pôl piniwn y Times a oedd yn dangos fod 51% o'r etholwyr yn bwriadu pleidleisio dros annibyniaeth.[8] Mewn ymateb i hyn cyhoeddodd y Canghellor George Osborne y byddai'r Alban yn derbyn mwy o annibyniaeth a hawliau megis codi trethi, waeth beth fydd canlyniad i hyn. Yr un diwrnod, mynnodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y dylid rhoi'r un hawliau i Gymru.[9] Ymateb arall i hyn oedd i nifer o wleidyddion Saesneg gan gynnwys David Cameron, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ymweld â'r Alban er mwyn ceisio dylanwadu ar y bleidlais.

Siambr Senedd yr Alban, Holyrood, Caeredin
Prif Weinidog presennol yr Alban Nicola Sturgeon gyda'r cyn-Brif weinidog Alex Salmond; Awst 2007
Baner yr Alban ar y chwith a Jac yr Undeb, Lloegr, ar y dde.
Arolwg barn o'r holl bolau
Graff o holiaduron yn rhagweld sut oedd yr etholaeth yn bwriadu pleidleisio

Gan i'r mwyafrif bleidleisio yn erbyn annibyniaeth yna bydd yr Alban yn parhau o dan y drefn bresennol, yn rhan o'r Deyrnas Unedig,[6][7] ond addawyd y byddai rhagor o bwerau yn cael eu datganoli i'r Alban o Lundain, fel rhan o Ddeddfwriaeth yr Alban 2012.[6][7] I'r perwyl hwn gwnaed nifer o argymhellion yn Nhachwedd 2014 gan Y Comisiwn Smith.

Wrth grynhoi'r ymgyrch dros annibyniaeth yn Nhachwedd 2014 dywedodd Dylan Iorwerth Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, 'Llwyddiant rhyfeddol oedd pleidlais'Ie' refferendwm yr Alban gan fod Alex Salmond yn gwybod yn iawn mai cam oedd o, nid diwedd y daith. Mae galw Salmond yn fethiant fel pebai awduron 'Exodus' wedi dweud mai fflop oedd Moses.'[10]

  1.  Newid cwestiwn refferendwm annibyniaeth yr Alban. Golwg360 (30 Ionawr 2013). Adalwyd ar 26 Tachwedd 2013.
  2.  Q&A: Scottish independence referendum. BBC (15 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 26 Tachwedd 2013.
  3. "Agreement between the United Kingdom Government and the Scottish Government on a referendum on independence for Scotland" (PDF). 15 Hydref 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-01-09. Cyrchwyd Mai 2013. Check date values in: |accessdate= (help)
  4. "Response to referendum consultation". Scotland.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-03. Cyrchwyd 11 Hydref 2012.
  5. "Scottish Independence Referendum Bill". Scottish.parliament.uk. Cyrchwyd 2014-01-31.
  6. 6.0 6.1 6.2 "Scottish independence referendum". www.gov.uk. UK Government. Cyrchwyd 29 Mai 2014.
  7. 7.0 7.1 7.2 "Scottish independence: Post-referendum agreement reached". BBC News. BBC. 18 Mehefin 2014. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.
  8. Gwefan YouGov; adalwyd 7 Medi 2014
  9. Gwefan y BBC; adalwyd 7 Medi 2014
  10. Golwg; Tachwedd 20 2014; tudalen 8; erthygl 'Ta-ta Moses'.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search