![]() | |
Enghraifft o: | grwp ethnig hanesyddol ![]() |
---|---|
Math | Y Galiaid, Y Celtiaid ![]() |
Rhan o | Belgae, Y Celtiaid ![]() |
![]() |
Llwyth Belgaidd yng ngogledd-ddwyrain Gâl oedd y Remi. Roedd eu tiriogaethau rhwng Afon Meuse ac Afon Marne ac yn nyffrynoedd Afon Aisne a'r afonydd sy'n llifo iddi. Eu prifddinas oedd Durocortum (Reims heddiw).
Roedd y Remi yn enwog am eu gwŷr meirch, a chofnodir iddynt ymuno a'r llwythau Almaenaidd yn erbyn y Parisii a'r Senones. Dan Iccius ac Andecombogius, gwnaethant gynghrair a Iŵl Cesar yn ystod ei ymgyrchoedd yn Ngâl, a hwy fu fwyaf cefnogol i'r Rhufeiniaid o holl lwythau Gâl.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search