Santes Eiluned | |
---|---|
![]() Ffenestr yn darlunio Eluned, yng Nghadeirlan Aberhonddu | |
Ganwyd | 5 g ![]() Teyrnas Brycheiniog ![]() |
Bu farw | o pendoriad ![]() |
Man preswyl | Aberhonddu ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol ![]() |
Dydd gŵyl | 1 Awst ![]() |
Tad | Brychan ![]() |
Santes oedd Eiluned neu Eluned un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog. Ei gwylmabsant yw 1 Awst.
Mae nifer o amrywiaethau o'i henw: Eiliueth (o'r Cognatio) Elvetha (Lladin) ac Almedha (Sacsoneg) yn arwain at Eiluned, Elwedd ac Aled mewn Cymraeg cyfoes, ond maent i gyd yn cyfeirio at yr un ddynes.[1][2] 'Eiluned' yw'r sillafiad a ddefnyddiai Lewis Glyn Cothi yn ei gerddi (Gwaith, 1837 t.88) a chytunai Ifor Williams gyda hyn (gweler LBS II.419 n.1.). 'Aelivedha' yw enw Gerallt Gymro arni.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search