Tallinn

Tallinn
Mathdinas Hanseatig, tref, dinas fawr, dinas â phorthladd, anheddiad dynol, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
Poblogaeth457,572 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Unknown (cyn 1154) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMihhail Kõlvart Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iVilnius Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladEstonia Edit this on Wikidata
Arwynebedd159.37 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr143 metr Edit this on Wikidata
GerllawGwlff y Ffindir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau59.4372°N 24.745°E Edit this on Wikidata
Cod post10111 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Tallinn Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMihhail Kõlvart Edit this on Wikidata
Map
Golwg ar hen ddinas Tallinn o'r harbwr.

Prifddinas a dinas fwyaf Estonia yw Tallinn. Mae 410,200 o bobl yn byw yno (Gorffennaf 2010). Fe'i lleolir ar arfordir gogleddol Estonia, ar lan Gwlff y Ffindir, sy'n fraich o'r Môr Baltig, tua 80 km (50 milltir) i'r de o Helsinki (Y Ffindir).

Dim ond 54.9% o'r boblogaeth sy'n Estoniaid ethnig. Mae 36.5% o'r boblogaeth yn Rwsiaid ethnig, a thua hanner rheiny heb ddod yn ddinasyddion Estoniaidd mor belled.

Mae Tallinn yn borthladd pwysig. Ceir gwasanaethau fferi sy'n cysylltu'r ddinas a Helsinki ac Ynysoedd Åland yn y Ffindir, Stockholm yn Sweden a Rostock yn yr Almaen. Lleolir prif faes awyr Estonia ger Tallinn a daw nifer o ymwelydd yno o wledydd eraill Ewrop a'r tu hwnt.

Tallinn yw canolbwynt gwleidyddol, ariannol, diwylliannol ac addysgol Estonia. Mae rhai yn cyfeirio ati fel Dyffryn Silicon Ewrop; ceir yno'r nifer uchaf o egin-gwmnïau i bob person yn Ewrop ac mae nifer o gwmnïau rhyngwladol wedi'u sefydlu yno, gan gynnwys Skype. Mae'r sector TGCh yn arbennig o gryf yno, ac mae wedi'i rhestr ymhlith 10 uchaf ar restr dinasoedd digidol Ewrop. Dyma hefyd gartref Canolfan Ragoriaeth Amddiffyniad Seibr NATO.

Ers 1997 mae Hen Ddinas Tallinn, sy'n cynnwys Toompea ('Bryn y Gadeirlan'), wedi ei rhestru gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search