![]() | |
![]() | |
Math | altepetl, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 212,500, 150,000, 70,000 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | ymerodraeth yr Asteciaid ![]() |
Gwlad | Mecsico ![]() |
Arwynebedd | 13 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 19.435°N 99.1314°W ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | tlatoâni ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Acamapichtli, Huitzilihuitl, Chimalpopoca, Itzcoatl, Moctezuma I, Asiaïácatl, Tisoc, Ahuitsotl, Moctesuma II, Cuitláhuac, Cuauhtémoc ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Mexica ![]() |
Prifddinas y gwareiddiad Astec ym Mecsico oedd Tenochtitlan neu Mecsico-Tenochtitlan, weithiau Tenochtitlán. Roedd wedi ei adeiladu ar ynys yn Llyn Texcoco, yn yr hyn sy'n awr yn Ddinas Mecsico.
Sefydlwyd Tenochtitlan yn 1325; yn ôl y chwedl daeth llwyth y Nahua i fyw ar yr ynys yn unol â gorchymyn eu duw Huitzilopochtli. Erbyn 1428 roedd yn bridffinas yr Astec a'r ddinas bwysicaf yng Nghanolbarth America. Erbyn i'r ddinas gyrraedd ei huchafbwynt, roedd yn un o ddinasoedd mwyaf y byd, gyda phoblogaeth o dros 200,000.
Cipiwyd Tenochtitlan yn 1521 gan y Sbaenwyr a'u cynhheiriaid brodorol dan Hernán Cortés. Yn ddiweddarach, gorchmynodd Cortés ail-adeiladu'r ddinas.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search