![]() | |
Brenhiniaeth Tonga Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga | |
![]() | |
Arwyddair | Duw a Tonga yw fy etifeddiaeth ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, ynys-genedl ![]() |
Prifddinas | Nuku'alofa ![]() |
Poblogaeth | 108,020 ![]() |
Sefydlwyd | 4 Mehefin 1970 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr) |
Anthem | Anthem Brenin Ynysoedd Tonga ![]() |
Pennaeth llywodraeth | ʻAisake Eke ![]() |
Cylchfa amser | UTC+13:00, Tongatapu'r Môr Tawel ![]() |
Gefeilldref/i | Auckland, Owariasahi ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tongan, Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Polynesia ![]() |
Gwlad | Tonga ![]() |
Arwynebedd | 748.506563 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Unol Daleithiau America ![]() |
Cyfesurynnau | 20.58778°S 174.81028°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Deddfwriaethol Tonga ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin Tonga ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Tupou VI ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Tonga ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | ʻAisake Eke ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $469.2 million ![]() |
Arian | Tongan paʻanga ![]() |
Cyfartaledd plant | 3.722 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.745 ![]() |
Mae Tonga (yn swyddogol Teyrnas Tonga; yn y Tongaeg: Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga) yn wlad sofran, ac yn wlad ynys ym Mholynesia, sy'n rhan o Oceania. Mae ganddi 171 o ynysoedd - gyda phobl yn byw ar 45 ohonynt nhw. Cyfanswm arwynebedd y wlad yw tua 750 cilometr sgwar (290 milltir sgwar) a hynny wedi ei wasgaru dros arwynebedd o tua 700,000 o gilometrau sgwar (270,000 milltir sgwar)yn Ne'r Cefnfor Tawel. O 2021 ymlaen, mae gan Tonga boblogaeth o 104,494,[1] gyda 70% ohonynt yn byw ar y brif ynys, sef Tongatapu. O'i hamgylch mae Ffiji a Wallis a Futuna (Ffrainc) i'r gogledd-orllewin, Samoa i'r gogledd-ddwyrain, Caledonia Newydd (Ffrainc) a Fanwatw i'r gorllewin, Niue (y diriogaeth dramor agosaf) i'r dwyrain, a Kermadec (Seland Newydd) i'r de-orllewin. Mae Tonga tua 1,800 cilometr (1,100 mi) o Ynys y Gogledd, Seland Newydd ac mae'n aelod o Gymanwlad Lloegr.
Daeth gwareiddiad Lapita i fyw i Tonga am y tro cyntaf tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, sef gwladfawyr (neu 'wladychwyr') Polynesaidd a esblygodd yn raddol ei hunaniaeth ethnig ei hun, gyda iaith a diwylliant unigryw. Roeddent yn gyflym i sefydlu sylfaen bwerus ar draws De'r Môr Tawel, a gelwir y cyfnod hwn o ehangu a gwladychu Tonga yn Ymerodraeth Tui Tonga. O reolaeth y brenin Tongan cyntaf, ʻAhoʻeitu, tyfodd Tonga'n bŵer rhanbarthol. Gorchfygodd ac aeth ati i reoli rhannau o'r Môr Tawel, o rannau o Ynysoedd Solomon a'r cyfan o Caledonia Newydd a Ffiji yn y gorllewin i Samoa a Niue a hyd yn oed cyn belled â rhannau o Polynesia Ffrengig heddiw yn y dwyrain. Daeth Tuʻi Tonga yn enwog am ei dylanwad economaidd, ethnig, a diwylliannol dros y Môr Tawel, a barhaodd hyd yn oed ar ôl chwyldro Samoaidd y 13g a darganfyddiad Ewropeaid o'r ynysoedd yn 1616.[2]
Rhwng 1900 a 1970, roedd gan Tonga statws gwladwriaeth warchodedig Brydeinig hy roedd Lloegr wedi'i meddiannu, ei gwladychu. Gofalodd y DU am faterion tramor Tonga o dan Gytundeb Cyfeillgarwch Tonga, ond ni ildiodd Tonga ei sofraniaeth i unrhyw bŵer tramor. Yn 2010, cymerodd gam pendant i ffwrdd o'i brenhiniaeth absoliwt draddodiadol a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol gwbl weithredol, ar ôl i ddiwygiadau deddfwriaethol baratoi'r ffordd ar gyfer ei hetholiadau cynrychioliadol cyntaf. Fel a ddigwyddodd yn Lloegr, daeth y brenin a'r frenhines yn ddim mwy na phwped.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search