Tre-biwt

Tre-Biwt
Mathdosbarth, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.467°N 3.166°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000838 Edit this on Wikidata
AS/auStephen Doughty (Llafur)
Map

Ardal, cymuned a ward etholiadol ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd, yw Tre-biwt, weithiau Tre Bute (Saesneg: Butetown). Mae'r sillafiad Cymraeg, ffonetig 'Biwt' yn mynd yn ôl i'r 19g.[1][2]

Tre-biwt yw ardal dociau Caerdydd, ac mae'n cynnwys Tiger Bay, fu'n destun y ffilm o'r un enw. Yn ne'r gymuned mae Bae Caerdydd. Erbyn hyn ceir llyn dŵr croyw mawr yma, a grewyd trwy godi morglawdd. Ceir Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn yr ardal yma.

Mae'n cynnwys cymunedau adnabyddus megis Sgwâr Loudoun a arferir bod yn ardal gyfoethog ond sydd wedi dioddef tlodi yn ystod yr 20g. Mae bellach wedi derbyn buddsoddiad gan gynnwys yn 2023 dechrau ar gwaith adeiladu Gorsaf reilffordd Tre-biwt.

  1. twitter.com; trydariad gan yr Athro Dylan Foster Evans; adalwyd 5 Rhagfy r 2018.
  2. papuraunewydd.llyfrgell.cymru; Papurau Newydd Cymru Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 5 Rhagfyr 2018.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search