Tredeml

Tredeml
Tafarn y Boar's Head
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth943 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,424.4 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7743°N 4.737°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000477 Edit this on Wikidata
Cod OSSN112119 Edit this on Wikidata
Cod postSA67 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Tredeml neu Tredemel[1] (Saesneg: Templeton). Saif i'r de o dref Arberth ger y briffordd A478.

Credir fod yr enw'n deillio o dir neu sefydliad yn perthyn i Urdd y Temlyddion. Roedd gan urdd Marchogion Sant Ioan gomawndri yn Slebets; yr unig un yng Nghymru, a gwyddir i ran o eiddo'r Temlyddion gael ei drosglwyddo iddynt hwy. Ceir cyfeiriad at y lle yn 1282 fel Villa temparila'r flwyddyn wedyn fel Villa Templarorium Campestris. Mae cynllun y pentref heddiw yn un o'r esiamplau gorau o gynllunio o'r canol oesoedd sydd wedi goroesi yng Nghymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]


  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search