Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

Mae "CBE", "DBE", "MBE" ac "OBE" i gyd yn ail-gyfeirio yma.

Seren Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

Urdd marchogion Brydeinig ydy Urdd Dra Ardderchog yr Ymerodraeth Brydeinig (Saesneg: The Most Excellent Order of the British Empire) a sefydlwyd ar 4 Mehefin 1917 gan Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig. Mae'r urdd yn cynnwys pum dosbarth o raniadau dinesig a milwrol; yn nhrefn y pwysicaf gyntaf:

  • Marchog (neu Fonesig) y Groes Fawr (Saesneg: Knight (or Dame) of the Grand Cross (GBE)
  • Marchog (neu Fonesig) Cadlywydd (Saesneg: Knight (or Dame) Commander (KBE neu DBE)
  • Cadlywydd (Saesneg: Commander) (CBE)
  • Swyddog (Saesneg: Officer) (OBE)
  • Aelod (Saesneg: Member) (MBE).

Dim ond y ddau ddosbarth uchaf sy'n galluogi i'r derbynnydd ddod yn aelod o'r urdd marchogion, gan roi'r hawl iddynt ddefnyddio'r teitl 'Syr' (gŵr) neu 'Bonesig' (benyw) o flaen eu henwau, cyn belled â'u bod yn enedigol o wlad y mae Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig yn bennaeth y wladwriaeth arni. Os nad ydynt, gallent ddefnyddio enw'r urdd yn eu henwau ond nid y teitlau.

Mae hyn yn berthnasol hefyd i Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig, nid yw derbynwyr o'r fedal honno yn aelodau o'r urdd, ond mae perthynas gyda'r urdd. Ni wobrwyir y fedal hon bellach yn y Deyrnas Unedig na'i gwledydd dibynadwy, ond mae'r Ynysoedd Cook a rhai Gwledydd y Gymanwlad yn dal i'w gwobrwyo.

Arwyddair yr urdd yw I Dduw a'r Ymerodraeth. Hon yw'r urdd leiaf pwysig Brydeinig, ac mae ganddi fwy o aelodau nac unrhyw urdd arall.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search