Ursula von der Leyen

Ursula von der Leyen
FfugenwRose Ladson Edit this on Wikidata
GanwydUrsula Gertrud Albrecht Edit this on Wikidata
8 Hydref 1958 Edit this on Wikidata
Ixelles Edit this on Wikidata
Man preswylBeinhorn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
AddysgMeddyg Meddygaeth, public health professional degree Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, gwleidydd, marchogol Edit this on Wikidata
SwyddFederal Minister of Defence, Federal Minister of Family Affairs, Senior Citizens, Women and Youth, Federal Minister of Labour and Social Affairs, Aelod o Bundestag yr Almaen, Member of the Landtag of Lower Saxony, Rhestr Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ysgol Feddygol Hannover
  • Ysgol Feddygol Hannover Edit this on Wikidata
Taldra161 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolChristian Democratic Union Edit this on Wikidata
TadErnst Albrecht Edit this on Wikidata
MamAdele Albrecht Edit this on Wikidata
PriodHeiko von der Leyen Edit this on Wikidata
PlantDavid von der Leyen, Sophie von der Leyen, Maria Donata von der Leyen, Victoria von der Leyen, Johanna von der Leyen, Egmont von der Leyen, Gracia von der Leyen Edit this on Wikidata
PerthnasauGeorge Alexander Albrecht Edit this on Wikidata
Llinachvon der Leyen Edit this on Wikidata
Gwobr/aulanguage adulterator award, BigBrotherAwards, BigBrotherAwards, Knight Grand Cross of the Order for Merits to Lithuania, language adulterator award, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Gwobr 100 Merch y BBC, Gwobr Time 100, Urdd Teilyngdod i Lithuania, National Order of Mali, Order of Saint Panteleimon, Q126416228 Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Gwleidydd o'r Almaen yw Ursula Gertrud von der Leyen ("Cymorth – Sain" ynganiad  g. Albrecht, 8 Hydref 1958), ac ymgeisydd ar gyfer Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.[1] Cyn hynny, gwasanaethodd fel Gweinidog Amddiffyn yr Almaen rhwng 2013 a 2019; mae'n aelod o blaid "yr Undeb Cristnogol Democrataidd" (CDU) canol-dde, hi yw'r fenyw gyntaf yn hanes yr Almaen i ddal y swydd Gweinidog Amddiffyn.

Cafodd ei geni a'i magu ym Mrwsel, lle'r oedd ei thad Ernst Albrecht yn un o'r gweision sifil Ewropeaidd cyntaf wedi ei benodiad yn 1958. Magwyd Ursula yn ddwyieithog mewn Almaeneg a Ffrangeg; mae hi o dras Almaeneg ac Americanaidd. Symudodd i Hanover yn 1971, pan drodd ei thad at wleidyddiaeth; daeth yn Brif Weinidog talaith Niedersachsen yn 1976.

Bu Ursula yn byw dan yr enw "Rose Ladson" fel myfyriwr economeg yn Llundain ar ddiwedd y 1970au. Ar ôl graddio fel meddyg o Ysgol Feddygol Hanover yn 1987, bu'n arbenigo mewn iechyd menywod. Fel mam i saith o blant, roedd yn wraig tŷ yn ystod rhannau o'r 1990au ac yn byw am bedair blynedd yn Stanford, Califfornia (UDA), gan ddychwelyd i'r Almaen yn 1996.

Ar ddiwedd y 1990au daeth yn rhan o wleidyddiaeth leol rhanbarth Hanover a bu'n weinidog cabinet yn llywodraeth Niedersachsen, lle bu ei thad, o 2003 i 2005. Yn 2005 ymunodd â'r cabinet ffederal, yn gyntaf fel Gweinidog Materion Teulu ac Ieuenctid o 2005 i 2009, yna'n Weinidog dros Lafur a Materion Cymdeithasol o 2009 i 2013, cyn olynu Thomas de Maizière yn Weinidog Amddiffyn yn 2013. Hyd ar Gorffennaf 2019, hi oedd yr unig weinidog sydd wedi gwasanaethu yn ddi-dorr yng nghabinet Angela Merkel ers iddi ddechrau gweithio. Yn flaenorol, fe'i hystyriwyd yn brif gystadleuydd i olynu Merkel fel Canghellor ac fel y ffefryn i ddod yn Ysgrifennydd Cyffredinol NATO.

Ar 2 Gorffennaf 2019, cynigiwyd Ursula von der Leyen gan y Cyngor Ewropeaidd fel eu hymgeisydd ar gyfer swydd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Os caiff ei ethol gan Senedd Ewrop, hi fydd y fenyw gyntaf i ddal y swydd, a'r Almaenwr cyntaf ers Walter Hallstein.[2][3][4]

Ursula Albrecht yn 2014.
  1. thetimes.co.uk; adalwyd 9 Gorffennaf 2019]
  2. Barigazzi, Jacopo; Herszenhorn, David M.; Bayer, Lili (2 Gorffennaf 2019). "EU leaders pick Germany's von der Leyen to lead Commission". POLITICO europe. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2019.
  3. Donahue, Patrick; Bodoni, Stephanie (2 Gorffennaf 2018). "EU Leaders Tap Germany's Von Der Leyen as Commission Chief". Bloomberg. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2019.
  4. "Consolidated version of the Treaty on European Union - TITLE III: PROVISIONS ON THE INSTITUTIONS - Article 17". eur-lex.europa.eu (yn Saesneg). Official Journal of the European Union. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2019.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search