Cynhaliwyd 39ain Uwchgynhadledd yr G8 o 17 i 18 Mehefin 2013 yn Lough Erne Resort, Lough Erne, Gogledd Iwerddon. Cyfarfu arweinwyr yr wyth gwlad sy'n aelodau'r G8 – Prif Weinidog y Deyrnas Unedig David Cameron, Arlywydd Ffrainc François Hollande, Canghellor yr Almaen Angela Merkel, Prif Weinidog yr Eidal Enrico Letta, Arlywydd Rwsia Vladimir Putin, Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama, Prif Weinidog Canada Stephen Harper, a Phrif Weinidog Japan Shinzo Abe – ynghyd â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd José Manuel Barroso a Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Herman Van Rompuy, a gwahoddwyd hefyd Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon Enda Kenny yn ei swydd fel cadeirydd Llywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd.[1]
Gosododd lywodraeth y Deyrnas Unedig tri phrif bwnc i'w trafod: masnach, trethiant, ac amlygrwydd (transparency).[2] Ar agenda'r uwchgynhadledd hefyd mae Rhyfel Cartref Syria.[3][4]
Bu feirniadaeth yng Ngogledd Iwerddon o'r gost o £50 miliwn am ddiogelwch yr uwchgynhadledd.[5] Yn debyg i nifer o'r uwchgynadleddau cynt daeth brotestwyr i'r ardal i wrthdystio'n erbyn yr G8, gan gynnwys 1,500 o bobl a fynychodd rali ym Melffast ar 15 Mehefin.[6] Codwyd "cylch dur" o gwmpas y cyrchfan ar gost o £4 miliwn a danfonwyd 8,000 o heddweision i blismona'r uwchgynhadledd.[7]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search