Math | rhanbarth |
---|---|
Prifddinas | Wana |
Poblogaeth | 791,087 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Pashto |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Affganistan Pacistan |
Cyfesurynnau | 33.03°N 69.9°E |
Mae talaith Wasiristan (neu Waziristan) yn Diriogaeth Lwythol sy'n gorwedd rhwng Khyber Pakhtunkhwa a Balochistan yng ngorllewin Pacistan, ar y ffin ag Affganistan. Mae'r prif drefi yn cynnwys Miram Shah, Razmak a Wana, ond mae'r rhan fwyaf o'r Wasiriaid yn byw mewn pentrefi bychain yn y bryniau. Mae'r mwyafrif llethol o'r trigolion yn Wasiriaid, un o lwythi Pathan (adweinir hefyd fel Pashtun) y Ffin. Maent yn bobl falch ac annibynnol ac wedi ymladd i gadw eu hannibyniaeth yn y gorffennol, er enghraifft yn erbyn lluoedd Indiaidd Prydain yn y 1930au.
Mae Wasiristan yn ardal fynyddog, rhyw 11,585 cilomedr (4,473 milltir) sgwâr yng Ngogledd-Orllewin Pacistan, yn ffinio ar Affganistan. Mae'r Llinell Durand yn rhedeg rhwng Wasiristan ac Affganistan. Crëwyd y llinell ym 1893 gan Mortimer Durand (ysgrifennydd tramor India Prydeinig) a'r Affgan Amir Abdur Rahman Khan, i denodi eu cylchoedd dylanwad. Poblogir yr ardal – a'r ddwy ochr Llinell Durand - gan y Pashtun, a siaradir yr iaith Pashto/Pakhto. Mae'n rhan o'r Ardaloedd Llwythol Gweinyddedig yn Ffederal, ystyriedwyd y tu allan o bedair dalaith y wlad. Roedd hi'n ardal llwythol annibynnol hyd at 1893, tu allan yr Ymerodraeth Brydeinig, ac oedd ymosodiadau llwythol yn broblem i'r Prydeinwyr, yn arwain at gyrchoedd cosbol rhwng 1860 a 1945. Daeth yr ardal yn rhan o Bacistan ym 1947. Dros y canrifoedd, mae rhyfeloedd yn Affganistan efo Prydain, India Prydeinig, Rwsia ac yr Unol Daleithiau, wedi effeithio'r Pashtun dros y ffin yn Wasiristan.
Rhannir Wasiristan yn Ogledd Wasiristan a De Wasiristan, efo phoblogaethau (ym 1998) o 361,246 a 429,841. Mae gan y ddau ran o'r llwyth Wasir nodweddiadau gwahanol, ond siarad yr un iaith.
Yn gymdeithasol ac yn grefyddol, mae Wasiristan yn lle ceidwadol.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search