Wicipedia:Asesiad cynnwys

Gweler hefyd: Erthyglau ddethol, Cynnig erthygl ddethol

Dyma strwythr safonni erthyglau gorau'r Wicipedia Cymraeg.

Gellir ychwanegu statws unrhyw un o'r nodiadau canlynol i dudalen cyn belled ei bod yn cyrraedd y safon a nodir. Dylid defnyddio'r tabl a'r enghreifftiau isod i arwain y safonni ond mae rhywfaint o le ar gyfer defnyddio barn i safon B a C. Dylid glynnu yn fwy llym at bwyntiau'r tabl ar gyfer safon Erthygl ddethol ac A.

Ar gyfer erthygl 'Erthygl ddethol' dylid nodi'r bwriad i ychwanegu'r statws hyn ar y dudalen Wicipedia:Cynnig erthygl ddethol.

Statws Disgrfiad posib bras Delwedd Dolen i ychwanegu nodyn
Erthygl ddethol
  • Trafodaeth eang gyda manylder dda ym mhob agwedd o'r pwnc.
  • Dim cynnwys o gwbl heb gyfeiriad (heblaw'r cyflwyniad).
  • Trafodaeth o bob pennawd amlwg.
  • Yn cynnwys nifer addas o ddelweddau.
  • O leiaf 5 ffynhonnell.
  • Dim gwallau amlwg.
  • Yn ffeithiol gywir.
  • Cymraeg cywir ac eglur.
  • Perspectif Cymreig yn ogystal ag un byd-eang
  • O leiaf 5 paragraff o hyd ac yn trin y testun yn gyflawn.
  • Yn ddiduedd.
  • Dylai'r categorïau ar waelod yr erthygl ffurfio cadwyn gyflawn. Hynny yw, ni ddylai cadwyn diweddu â chategori coch.
  • Dylai'r dolenni rhyngwici arwain yn syth at yr erthygl gyfatebol yn yr ieithoedd eraill.
  • Dylai lleiafrif o ddolenni'r erthygl fod yn rhai coch.
  • Dylai'r cysylltiadau at wefannau allanol weithio.

Argymhellir hefyd (nid yw'n ofynnol):

  • Llyfyddiaeth

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search