Ni ddylai erthyglau ar Wicipedia gynnwys ymchwil gwreiddiol. Cyfeiria'r term "ymchwil gwreiddiol" (neu YG) at gynnwys fel ffeithiau, cyhuddiadau a syniadau ble na cheir ffynhonnell ddibynadw wedi'u cyhoeddi.[1] Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddadansoddiad neu synthesis o ddeunydd wedi'u cyhoeddi a ddefnyddir i hyrwyddo un farn arbennig er nad oes tystiolaeth o ran ffynhonnell. Prawf o'ch datganiad nad ydych yn cyhoeddi ymchwil gwreiddiol ydy eich bod yn cyhoeddi gyda'r gwaith gyfeiriad at ffynhonnell y datganiad. Dylai'r ffynhonnell fod yn uniongyrchol berthnasol i'r deunydd a gyflwynir.
Mae gwahardd YG hefyd yn golygu fod yn rhaid priodoleddu'r deunydd i ffynhonnell ddibynadwy sydd wedi'i gyhoeddi.[1] Mae ein Polisi Gwiriadwyedd (verifability policy) yn mynnu fod yn rhaid cyfeirio at ffynhonnell ddibynadwy ym mhob dyfyniad ac ym mhob cynnwys sy'n debygol o gael ei herio. Mae'n rhaid i ffynhonnell ddibynadwy fodoli hefyd ar gyfer cynnwys nad chaiff fyth mo'i herio e.e. Does dim rhaid wrth ffynhonellau i gyfiawnhau'r datganiad mai "Paris yw prifddinas Ffrainc" oherwydd does neb call yn mynd i herio'r datganiad hwnnw a gwyddom fod ffynhonellau dibynadwy'n bodoli pe bai angen.
Ni ddylid camddefnyddio'r hawl hwn i ddyfynu drwy ei orddefnyddio nes peri iddo droi'n llên-ladrad; mae hyn yn torri hawlfraint y ffynhonnell wreiddiol. Dylech sgwennu'r erthyglau yn eich geiriau eich hun gan lynnu'n glos at ystyr ac ysbryd y deunydd gwreiddiol.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search