Y Cynghrair Arabaidd

Y Cynghrair Arabaidd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhanbarthol, uno gwleidyddol, sefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu22 Mawrth 1945 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLibanus Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadSecretary General of the Arab League Edit this on Wikidata
SylfaenyddYr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Sawdi Arabia, Syria, Iemen Edit this on Wikidata
Isgwmni/auArab Monetary Fund, Arab Air Carriers Organization, Arab League Educational, Cultural and Scientific Organization, Arab Parliament Edit this on Wikidata
PencadlysHeadquarters of the Arab League Edit this on Wikidata
Enw brodorolالجامعة العربية‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.leagueofarabstates.net/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aelodau'r Cynghrair Arabaidd

Sefydlwyd y Cynghrair Arabaidd (Arabeg: الجامعة العربية‎ al-Jāmiʻa al-ʻArabiyya), a elwir Cynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd (Arabic: جامعة الدول العربية‎ Jāmiʻat ad-Duwal al-ʻArabiyya) yn swyddogol, er mwyn hyrwyddo undod a chydweithrediad rhwng y gwledydd Arabaidd. Fe'i sefydlwyd ar 7 Mawrth, 1945, gan saith o wledydd Arabaidd, sef Yr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Sawdi Arabia, Syria ac Iemen. Ar hyn o bryd ceir 22 aelod. Prif nod y cynghrair yw creu perthynas agosach rhwng yr aelod-wladwriaethau a threfnu cydweithrediad rhyngddynt, amddiffyn eu hannibyniaeth a'u sofraniaeth, a thrafod mewn modd gyffredinol buddianau'r gwledydd Arabaidd a materion sy'n ymwneud â hwy.

Lleolir ei bencadlys yn ninas Cairo yn yr Aifft. Mae tua 316 miliwn o bobl yn byw yng ngwledydd y Cynghrair, ar diriogaeth sy'n ymestyn o'r Maghreb yn y gorllewin i'r ffin rhwng Irac ac Iran a de-ddwyrain gorynys Arabia yn y dwyrain. Mae'r mwyafrif yn Arabiaid ond ceir lleiafrifoedd fel y Berberiaid hefyd. Mae canran sylweddol o'r boblogaeth yn byw mewn dinasoedd a threfi. Y dinasoedd mwyaf yw Baghdad, Khartoum, Damascus, Riyadh, Alexandria a Casablanca.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search