Y Ddraig Goch

Mae'r Ddraig Goch yn symbol herodrol sy'n cynrychioli Cymru ac yn ymddangos ar faner genedlaethol Cymru.

Defnyddiwyd y sarff neu'r ddraig fel symbol gan y Brythoniaid brodorol ar gleddyfau, bathodynnau a cheiniogau ac mae tystiolaeth archaeolegol o hyn. Roedd y sarff neu'r ddraig yn bwysig i'r Celtiaid fel symbol, ac mae hyd yn oed awgrymiad fod y meini hynafol yn demlau addoli'r haul a'r sarff. Mae'n bosib fod y Rhufeiniaid wedi dylanwadu ar ddefnydd y Brythoniaid o'r symbol a'u hysgogi i'w ddefnyddio ar faner. Mae tystiolaeth i ddweud y gwnaeth filwyr Celtiadd ddefnyddio'r faner tra'n ymladd fel carfan dan arweiniad y Rhufeiniad.

Ymhlith arweinwyr hynafol y Brythoniaid Celtaidd sy'n cael eu personoli fel dreigiau mae Maelgwn Gwynedd, Mynyddog Mwynfawr ac Urien Rheged. Mae hefyd yn bosib y defnyddiwyd draig ar faner yn y cyfnod hwn yn ôl dehongliad o'r gerdd Gwarchan Maelderw yn Llyfr Aneirin.

Mae’r ddraig goch i’w gweld yn stori hynafol y Mabinogi am Lludd a Llefelys lle mae wedi’i charcharu, yn brwydro â draig wen yn Ninas Emrys. Mae'r stori yn parhau yn Historia Brittonum, a ysgrifennwyd tua 829 OC, lle mae Gwrtheyrn, Brenin y Brythoniaid yn rhwystredig yn ei ymdrechion i adeiladu caer yn Ninas Emrys. Mae'r bachgen, Emrys, yn dweud wrtho am gloddio am ddwy ddraig sy'n ymladd o dan y castell. Mae'n darganfod y ddraig wen s'yn cynrychioli'r Eingl-Sacsoniaid, a fydd yn cael ei threchu'n fuan gan ddraig goch Cymru.

Ymhlith y "dreigiau" Cymreig yn Oes y Tywysogion mae Owain Gwynedd, Llywelyn ap Gruffydd ac Owain Glyndŵr. Defnyddiwyd y ddraig aur ar faner gan Owain Glyndŵr wrth ymladd yn erbyn y Saeson dros annibyniaeth i Gymru yn y 15g.

Ar ôl concwest Cymru, ychwanegodd Harri Tudur y tir gwyrdd i'r faner wrth geisio argyhoeddi ei gysylltiad Cymreig at Cadwaladr Fendigaid wrth frwydro dros goron Lloegr.

Daeth y ddraig goch yn symbol poblogaidd yng Nghymru tua diwedd y 19g a dechrau'r 20g mewn Eisteddfodau er enghraifft. Mae’r ddraig goch bellach yn cael ei hystyried yn symbol o Gymru ac mae'n ymddangos ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search