Y Mwynglawdd

Y Mwynglawdd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,617, 1,491 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,175.74 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0593°N 3.0937°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000900 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ267518 Edit this on Wikidata
AS/au y DUAndrew Ranger (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Y Mwynglawdd (Saesneg: Minera). Y pentrefi cyfagos yw Coedpoeth i'r dwyrain a Bwlchgwyn i'r gogledd-orllewin. Y Mw'nglodd yw'r enw ar lafar yn lleol.

Ar un adeg bu Mwynglawdd yn gymuned amaethyddol gyda nifer o ffermydd yn y cylch, ond serch hynny cloddid plwm yn yr ardal ers yr Oesoedd Canol. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, tyfodd Mwynglawdd yn bentref sylweddol gyda mwyngloddiau newydd yn cael eu hagor o'i gwmpas.

Codwyd capel cyntaf y pentref ym 1804, ar safle'r capel presennol. Cafodd ei ailenwi yn Gapel Mwynglawdd ac yna, yn 1859, yn Gapel Pen y Bryn. Er gwaethaf y ffaith ei fod mor agos i'r ffin â Lloegr, bu'r pentref, fel nifer o'r rhai eraill yn y cylch, yn gartref i gymuned Gymraeg.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search