Y Wladfa

Dathlu'r glaniad, 2004.
Y traeth ym Mhorth Madryn, Chubut.
Map gan D. Juan de la Cruz Cano y Olmedilla, 1775

Ardal yn nhalaith Chubut, Patagonia, yr Ariannin lle ymfudodd llawer o Gymry yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Wladfa (neu Gwladfa Patagonia). Mae cymunedau Cymreig mewn gwledydd eraill hefyd, megis Pennsylvania ac ardaloedd eraill UDA neu Awstralia, ond mae'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn amlycaf yn y Wladfa.

Craidd y Wladfa yw Dyffryn Camwy, tua 60 km i'r de o Borth Madryn. Afon Camwy (Río Chubut) yw prif ffynhonnell ddŵr yr ardal. Ystyr yr enw gwreiddiol Chupat yn iaith y Tehuelches brodorol yw 'Tryloyw'. Y prif drefi yw Rawson, prifddinas y dalaith ers 1884, Gaiman, y dref fwyaf Cymreig yn yr ardal, Dolavon a Threlew. Tua 500 milltir i'r gorllewin o Ddyffryn Camwy, yng Nghwm Hyfryd wrth draed yr Andes ceir Esquel a Threvelin, dwy dref arall a sefydlwyd gan y Cymry.

Heddiw, mae tua 150,000 o bobl yn byw yn yr ardal a thua 72,685 ohonynt yn ddisgynyddion i'r Cymry. Mae tua 5,000 ohonynt yn siarad Cymraeg a channoedd yn dysgu'r iaith. Yn ôl Cathrin Williams, sydd wedi ysgrifennu llawer am y Wladfa, "Bellach mae pobl ifanc yn hapus i fy nghyfarch yn Gymraeg ar y stryd ac yn gallu cynnal sgwrs ac iddi ddyfnder. Diflannodd yr hen gywilydd ac yn ei le daeth balchder."[1]

  1. Golwg, 28 Chwefror 2013, tud. 10

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search