Enghraifft o'r canlynol | sefydliad di-elw |
---|---|
Idioleg | cenedlaetholdeb Cymreig, annibyniaeth |
Dechrau/Sefydlu | 2014 |
Pencadlys | Caerdydd |
Gwefan | https://yes.cymru/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad amhleidiol, Cymreig yw YesCymru a'i brif nod yw ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei llywodraethu. Mae YesCymru yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu pob person – o ba gefndir bynnag – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt i fod yn ddinasyddion llawn o fewn Cymru.[1]
Ar 2 Tachwedd 2020, roedd gan y mudiad 12,000 o aelodau.[2][3] Golygai hyn y gwelwyd cynnydd o 3,000 o aelodau mewn llai na tridiau (30 Hydref - 2 Tachwedd; a chynnydd o 9,000 o aelodau rhwng Chwefror a Thachwedd. Tyfodd aelodaeth ac amlygrwydd YesCymru yn esbonyddol yn ystod y pandemig COVID-19. Mae nifer yr aelodau wedi dyblu o 2,500 i 5,000 dros ddau fis yn unig yn ystod gwanwyn 2020. Cafodd y sefydliad gynnydd pellach o oddeutu 3,000 o aelodau dros dri diwrnod ddiwedd mis Hydref 2020; roedd y codiad hwn yn cyd-fynd â llywodraeth San Steffan yn gwrthod rhoi hwb i fusnesau Cymru ar gyfer y cyfnod cau tân '17 diwrnod' yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2021, honnodd YesCymru fod ganddo fwy na 17,000 o aelodau cofrestredig. Cred Siôn Jobbins mai un o'r rhesymau dros dwf mor gyflym yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig.
Cynhaliodd y mudiad ei digwyddiad mawr cyntaf ym Medi 2014 yng Nghaerdydd ychydig ddyddiau cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban dan y teitl 'Cymru'n cefnogi Ie - Ewch Amdani Alba', lle ddaeth cannoedd o bobl ynghyd.[4]
Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad o bwys ym mis Ebrill 2015, yn galw am Ymreolaeth i Gymru fis cyn yr etholiad cyffredinol.[5]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search