YesCymru

YesCymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Idiolegcenedlaetholdeb Cymreig, annibyniaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2014 Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://yes.cymru/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo YesCymru
Baner YesCymru yn cael ei chwifio gan band 'Tŷ Gwydr' mewn gig yn Eisteddfod Caerdydd, 2018

Mudiad amhleidiol, Cymreig yw YesCymru a'i brif nod yw ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei llywodraethu. Mae YesCymru yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu pob person – o ba gefndir bynnag – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt i fod yn ddinasyddion llawn o fewn Cymru.[1]

Ar 2 Tachwedd 2020, roedd gan y mudiad 12,000 o aelodau.[2][3] Golygai hyn y gwelwyd cynnydd o 3,000 o aelodau mewn llai na tridiau (30 Hydref - 2 Tachwedd; a chynnydd o 9,000 o aelodau rhwng Chwefror a Thachwedd. Tyfodd aelodaeth ac amlygrwydd YesCymru yn esbonyddol yn ystod y pandemig COVID-19.  Mae nifer yr aelodau wedi dyblu o 2,500 i 5,000 dros ddau fis yn unig yn ystod gwanwyn 2020. Cafodd y sefydliad gynnydd pellach o oddeutu 3,000 o aelodau dros dri diwrnod ddiwedd mis Hydref 2020; roedd y codiad hwn yn cyd-fynd â llywodraeth San Steffan yn gwrthod rhoi hwb i fusnesau Cymru ar gyfer y cyfnod cau tân '17 diwrnod' yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2021, honnodd YesCymru fod ganddo fwy na 17,000 o aelodau cofrestredig. Cred Siôn Jobbins mai un o'r rhesymau dros dwf mor gyflym yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig.

Cynhaliodd y mudiad ei digwyddiad mawr cyntaf ym Medi 2014 yng Nghaerdydd ychydig ddyddiau cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban dan y teitl 'Cymru'n cefnogi Ie - Ewch Amdani Alba', lle ddaeth cannoedd o bobl ynghyd.[4]

Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad o bwys ym mis Ebrill 2015, yn galw am Ymreolaeth i Gymru fis cyn yr etholiad cyffredinol.[5]

  1. "Gwefan swyddogol y mudiad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-04. Cyrchwyd 2015-08-29.
  2. "Canghennau YesCymru yn rhan annatod o'r ymgyrch am annibyniaeth". Golwg360. 2020-11-02. Cyrchwyd 2020-11-02.
  3. Cyfri Twitter @YesCymru; adalwyd 2 Tachwedd 2020
  4. Rali Ewch amdani Alba
  5. Rali’n galw am “chwarae teg” i Gymru

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search