Ymbelydredd electromagnetig

Ymbelydredd electromagnetig
Mathymbelydredd Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod13 Tachwedd 1886 Edit this on Wikidata
Rhan oelectromagnetic field Edit this on Wikidata
Yn cynnwyston electromagnetig, ffoton Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn ffiseg, mae ymbelydredd electromagnetig (ymbelydredd EM neu EMR ) yn cyfeirio at donnau (neu eu quanta, ffotonau) y maes electromagnetig, sy'n lluosogi trwy'r gofod, ac sy'n cario egni pelydrol electromagnetig.[1] Mae'n cynnwys tonnau radio, microdonnau, golau is-goch, (gweladwy), uwchfioled, pelydrau-X, a phelydrau gama. Mae'r tonnau hyn i gyd yn rhan o'r sbectrwm electromagnetig,[2]

Ton electromagnetig sinwsoidaidd polariaidd llinol, yn lluosogi i'r cyfeiriad + z trwy gyfrwng homogenaidd, isotropig, fel gwactod. Mae'r maes trydan (saethau glas) yn pendilio yn y cyfeiriad ± x, ac mae'r maes magnetig orthogonal (saethau coch) yn pendilio fesul cam â'r maes trydan, ond i gyfeiriad ± y- .

Yn glasurol, mae ymbelydredd electromagnetig yn cynnwys tonnau electromagnetig, sy'n osgiliadau cydamserol o feysydd trydan a magnetig. Mae ymbelydredd electromagnetig neu donnau electromagnetig yn cael eu creu oherwydd newid cyfnodol y maes trydan neu fagnetig. Yn dibynnu ar sut mae'r newid cyfnodol hwn yn digwydd a'r pŵer a gynhyrchir, cynhyrchir gwahanol donfeddi sbectrwm electromagnetig. Mewn gwactod (vacuum), mae tonnau electromagnetig yn teithio ar gyflymder goleuni, a ddynodir yn gyffredin fel c.

Mewn cyfryngau homogenaidd, isotropig, mae osgiliadau'r ddau faes yn berpendicwlar i'w gilydd ac yn berpendicwlar i gyfeiriad egni a'r tonnau a dynhyrchir, gan ffurfio ton draws (transverse wave). Mae blaen y tonnau electromagnetig sy'n cael eu hallyrru o ffynhonnell=bwynt (fel bwlb golau) yn sffêr. Gellir nodweddu lleoliad ton electromagnetig o fewn y sbectrwm electromagnetig naill ai gan ei amledd osciliad neu ei donfedd . Mae tonnau electromagnetig o amledd gwahanol yn cael eu galw gan wahanol enwau gan fod ganddyn nhw wahanol ffynonellau ac effeithiau ar fater. Y rhain yw: tonnau radio, microdonnau, ymbelydredd is-goch, golau gweladwy, ymbelydredd uwchfioled, pelydrau-X a pelydrau gama.[3]

Mae tonnau electromagnetig yn cael eu hallyrru gan ronynnau â gwefr drydanol sy'n cyflymu,[4][5] a gall y tonnau hyn ryngweithio â gronynnau gwefredig eraill, gan roi grym arnynt. Mae tonnau EM yn cario egni, momentwm a momentwm onglog i ffwrdd o'u gronyn ffynhonnell a gallant roi'r meintiau hynny i'r mater y maent yn rhyngweithio â nhw. Mae ymbelydredd electromagnetig yn gysylltiedig â'r tonnau EM hynny sy'n rhydd i luosogi eu hunain ("pelydru") heb ddylanwad parhaus y gwefrau symudol a'u cynhyrchodd, oherwydd eu bod wedi mynd yn ddigon pell o'r gwefrau hynny. Felly, cyfeirir at EMR weithiau fel y maes pellaf. Yn y ffram yma o feddwl, mae'r maes agos (near field) yn cyfeirio at faesydd EM ger y gwefrau a'r cerrynt a'u cynhyrchodd yn uniongyrchol, yn benodol anwythiad electromagnetig (electromagnetic induction) ac anwythiad electrostatig.

Mewn mecaneg cwantwm, ffordd arall o edrych ar EMR yw ei fod yn cynnwys ffotonau, gronynnau elfennol di-wefr â màs gorffwys sero (zero rest mass) sef quanta'r maes electromagnetig, sy'n gyfrifol am yr holl ryngweithio electromagnetig.[6] Electrodynameg cwantwm yw'r theori o sut mae EMR yn rhyngweithio â mater ar lefel atomig.[7] Mae effeithiau cwantwm yn darparu ffynonellau ychwanegol o EMR, megis trosglwyddo electronau i lefelau egni is mewn atom ac ymbelydredd corff du.[8] Mae egni ffoton unigol yn cael ei feintioli ac mae'n fwy ar gyfer ffotonau o amledd uwch. Rhoddir y berthynas hon gan hafaliad Planck E = hf, lle mae E yn egni fesul ffoton, f yw amledd y ffoton, ac h yw cysonyn Planck. Er enghraifft, gallai ffoton pelydr gama sengl gario ~ 100,000 gwaith yr egni o un ffoton sengl o olau gweladwy.

Mae effeithiau EMR ar gyfansoddion cemegol ac organebau biolegol yn dibynnu ar bŵer yr ymbelydredd a'i amlder. Gelwir EMR o amleddau gweladwy neu is (hy, golau gweladwy, is-goch, microdonnau, a thonnau radio) yn "ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio", oherwydd nid oes gan ei ffotonau ddigon o egni yn unigol i ïoneiddio atomau neu foleciwlau neu dorri bondiau cemegol. Mae effeithiau'r pelydriadau hyn ar systemau cemegol a meinwe byw yn cael eu hachosi'n bennaf gan effeithiau'r gwres a gynhyrchir o drosglwyddo egni llawer o ffotonau. Mewn cyferbyniad, gelwir pelydrau X uwchfioled, pelydrau-X a gama yn ymbelydredd ïoneiddio, gan fod gan ffotonau unigol amledd mor uchel ddigon o egni i ïoneiddio moleciwlau neu dorri bondiau cemegol. Mae gan y pelydriadau hyn y gallu i achosi adweithiau cemegol a niweidio celloedd byw y tu hwnt i'r hyn sy'n deillio o wresogi syml, a gallant fod yn berygl i iechyd, yn bennaf, drwy achosi.

  1. Purcell and Morin, Harvard University. (2013). Electricity and Magnetism, 820p (arg. 3rd). Cambridge University Press, New York. ISBN 978-1-107-01402-2. p 430: "These waves... require no medium to support their propagation. Traveling electromagnetic waves carry energy, and... the Poynting vector describes the energy flow...;" p 440: ... the electromagnetic wave must have the following properties: 1) The field pattern travels with speed c (speed of light); 2) At every point within the wave... the electric field strength E equals "c" times the magnetic field strength B; 3) The electric field and the magnetic field are perpendicular to one another and to the direction of travel, or propagation."
  2. Browne, Michael (2013). Physics for Engineering and Science, p427 (arg. 2nd). McGraw Hill/Schaum, New York. ISBN 978-0-07-161399-6.; p319: "For historical reasons, different portions of the EM spectrum are given different names, although they are all the same kind of thing. Visible light constitutes a narrow range of the spectrum, from wavelengths of about 400-800 nm.... ;p 320 "An electromagnetic wave carries forward momentum... If the radiation is absorbed by a surface, the momentum drops to zero and a force is exerted on the surface... Thus the radiation pressure of an electromagnetic wave is (formula)."
  3. Maxwell, J. Clerk (1 Ionawr 1865). "A Dynamical Theory of the Electromagnetic Field". Philosophical Transactions of the Royal Society of London 155: 459–512. Bibcode 1865RSPT..155..459C. doi:10.1098/rstl.1865.0008.
  4. Cloude, Shane (1995). An Introduction to Electromagnetic Wave Propagation and Antennas. Springer Science and Business Media. tt. 28–33. ISBN 978-0387915012.
  5. Bettini, Alessandro (2016). A Course in Classical Physics, Vol. 4 - Waves and Light. Springer. tt. 95, 103. ISBN 978-3319483290.
  6. "The Dual Nature of Light as Reflected in the Nobel Archives". www.nobelprize.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 4 Medi 2017.
  7. "Electromagnetic Spectrum facts, information, pictures | Encyclopedia.com articles about Electromagnetic Spectrum". www.encyclopedia.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2017. Cyrchwyd 4 Medi 2017.
  8. Tipler, Paul A. (1999). Physics for Scientists and Engineers: Vol. 1: Mechanics, Oscillations and Waves, Thermodynamics. MacMillan. t. 454. ISBN 978-1572594913.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search