Ymosodiad Israel ar lynges ddyngarol Gaza 2010

Ymosodiad Israel ar lynges ddyngarol Gaza 2010
Enghraifft o'r canlynolAnghydfod diplomyddol, môr-ladrad Edit this on Wikidata
Dyddiad31 Mai 2010 Edit this on Wikidata
Lladdwyd10 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGaza flotilla raid 2012 Edit this on Wikidata
Lleoliaddyfroedd rhyngwladol Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Protest ym Melffast, Iwerddon, 31 Mai, 2010 yn erbyn ymosodiad Israel.
Y cwch o Dwrci, y Mavi Marmara, wythnos cyn i gomandos Israel ymosod arni.
Map o Lain Gaza gan ddangos y porthladd Ashdod.
Llun o'r ffilm o'r llong. Honnir i'r llun ddangos un o filwyr Irael yn cael ei daro gan yr ymgyrchwyr. Ffynhonnell:IDF Footage
Cartwn gan y cartwnydd gwleidyddol Carlos Latuff.

Ar 31 Mai, 2010 ceisiodd chwech o gychod dyngarol gludo nawdd a chymorth i drigolion Llain Gaza; llynges wedi'i threfnu gan Mudiad Rhyddid i Gaza, sef cymdeithas ryngwladol sy'n dadlau dros hawliau dynol y Palesteiniaid gyda phobl megis Desmond Tutu a Noam Chomsky yn flaenllaw ynddi. Ymosododd milwyr o lynges Israel ar un o'r cychod, sef y MV Mavi Marmara[1] o Dwrci gan ladd rhwng 10 ac 16 o sifiliaid.[2][3] Roedd y llongau mewn dyfroedd rhyngwladol ar y pryd. Credir fod tua 60 wedi eu hanafu, ond mae Israel wedi rhoi gwaharddiad ar i'r cyfryngau gyhoeddi dim am yr ymosodiad. Mewn canlyniad, mae union amgylchiadau'r digwyddiad yn ansicr. Yn ôl yr ymgyrchwyr ar y llong, daeth y milwyr Israelaidd ar fwrdd y llong a dechrau saethu.[4] Fodd bynnag, dywedododd Llu Amddiffyn Israel fod o leiaf saith milwr wedi eu hanafu mewn sgarmes, dau ohonynt yn ddifrifol, ar ôl i'r ymgyrchwyr dyngarol geisio cipio'u harfau.[5] Honnodd byddin Israel i'r ymgyrchwyr ddefnyddio pastynau a chyllyll yn erbyn y milwyr hefyd, er nad oedd yr un gwn wedi ei ddarganfod ar fwrdd y llong.[5]

Cafwyd gwrthwynebiad cryf yn erbyn ymosodiad Israel ar y llongau cymorth gan nifer helaeth o wledydd. Dywedodd Prif Weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdoğan, fod Israel wedi gweithredu fel "terfysgwyr annynol" ac "na ddylai neb feddwl y gwnawn gadw'n dawel yn wyneb hyn."[3]

Yn ôl yr Israeliaid roeddent wedi gofyn i gapten y cwch fynd i borthladd Ashdod i'w archwilio rhag ofn ei fod yn cludo arfau yn ogystal ag anghenion dyngarol.[6] Enw'r ymosodiad gan fyddin Israel oedd 'Ymgyrch gwynt awyr' (Saesneg: Operation Sky Winds).

  1. Erthygl: "The Gaza Freedom flotilla" yn The Guardian; 01 Mehefin, 2010
  2. "gan Edmund Sanders; Teitl: "At least 10 die as Israel halts aid flotilla"; Los Angeles Times". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-31. Cyrchwyd 2010-06-01.
  3. 3.0 3.1 Times Online
  4. "Deaths as Israeli forces storm Gaza aid ship" BBC News, 31 Mai 2010.
  5. 5.0 5.1 Israel Navy commandos: Gaza flotilla activists tried to lynch us Haaretz.com 31-05-2010. Adalwyd ar 02-06-2010
  6. Papur dyddiol Israel: Haaretz

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search