![]() | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Ptolemi ![]() |
Iaith | Hen Roeg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 148 ![]() |
Genre | traethawd ![]() |
Prif bwnc | seryddiaeth ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
![]() |
Traethawd ar seryddiaeth a ysgrifennwyd tua 150 OC gan Ptolemi, ysgolhaig o Alexandria, oedd yr Almagest. Parhaodd y llyfr yn brif sail i wybodaeth seryddol yn Ewrop a'r byd Islamaidd nes y cyhoeddwyd gweithiau Copernicus yn yr 16g, a derbyniwyd model geosentrig Ptolemi o'r bydysawd fel ffaith trwy gydol yr amser hwnnw.[1]
Ysgrifennodd Ptolemy yn Groeg. Cyfieithwyd ei waith i Arabeg ar ddiwedd yr 8g a dechrau'r 9g ac yna o Arabeg i Ladin yn ail hanner y 12g. Erbyn ddechrau'r 15g roedd y testun Groeg gwreiddiol tra hysbys yn Ewrop, er bod cyfieithiadau Lladin yn parhau i fod yn fwy dylanwadol. Y teitl Groeg gwreiddiol oedd Μαθηματικὴ σύνταξις ("Traethawd mathemategol"). Mae'r enw "Almagest" yn deillio o'r Arabeg al-Magisṭī.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search