Conffeti

Dynes yn taflu conffeti

Mae Conffeti yn ddarnau bach, lliwgar o bapur, sy'n boblogaidd gyda gorymdeithiau carnifal, ond hefyd mewn eraill dathliadau - fel partïon pen-blwydd plant neu briodasau - i'w taflu yn yr awyr neu at bobl. Weithiau defnyddir canon conffeti hefyd. Sillefir y gair yn y Gymraeg gydag 'ff' ac ond un 't', tra mai un 'f' a dwy 't' sydd yn yr Eidaleg gwreiddiol, confetti, ac arddelir yn y rhan fwyaf o ieithoedd megis y Saesneg.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search