Crynwyr

George Fox

Mae'r Crynwyr, neu Gymdeithas Grefyddol Cyfeillion, yn enwad Cristnogol a sefydlwyd yn Lloegr yn yr 17g. "Offeiriadaeth pob crediniwr" (Saesneg: (Priesthood of all believers) yw cred bwysicaf y Crynwyr. Mae heddychaeth hefyd yn bwysig iawn iddynt.

Yn yr 17g, torrodd rhai pobl i ffwrdd oddi wrth yr Eglwys Anglicanaidd gan gynnwys: George Fox, James Naylor, Margaret Fell a Francis Howgill. Roeddent yn rhoi'r pwyslais ar brofiad personol yr unigolyn o Grist, wedi'i lywio gan y Beibl. Ymledodd Crynwriaeth i Gymru yn yr 17g. Bu Crynwyr Cymreig, yn enwedig o ardaloedd Meirionnydd a Maldwyn, ymhlith y nifer sylweddol o Grynwyr a ymfudodd i dalaith Pennsylvania yng ngogledd America (UDA heddiw) i ddianc erledigaeth a cheisio bywyd newydd.

Mae llawer o Crynwyr yn Affrica, Asia, UDA yn Gristnogion efengylaidd. Heddiw, mae'r rhan fwyaf o Grynwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn Gristnogion rhyddfrydol. Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu dylanwadu gan "ddiwinyddiaeth sancteiddrwydd" John Wesley. Heddiw, ceir ychydig o Grynwyr sy'n anffyddiwr neu'n agnostig.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search