Enghraifft o: | iaith koiné ![]() |
---|---|
Math | ieithoedd Germanaidd Gogleddol ![]() |
Gwladwriaeth | Norwy ![]() |
Iaith gyffredin a chymysgiaith o'r Ddaneg a'r Norwyeg, y ddwy ohonynt yn ieithoedd Germanaidd Gogleddol, yw Dano-Norwyeg (dansk-norsk) a ddatblygodd ymhlith uchelwyr yn ninasoedd Norwy yn y 18g ac a barhaodd trwy gydol y 19g. Daeth y ffurf ieithyddol hon i'r amlwg yng nghyfnod diweddar Denmarc–Norwy, pan oedd Daneg yn iaith swyddogol y deyrnas, a pharhaodd y Ddaneg yn brif iaith ysgrifenedig Norwy er i'r wlad honno arwahanu oddi ar Ddenmarc ac uno â Sweden ym 1814. Roedd y Ddano-Norwyeg mwy neu lai yn unfath â'r Ddaneg ond ynganiad ei geirfa wedi addasu at yr acen Norwyaidd. Tafodieithoedd Norwyeg lleol oedd iaith y werin ar draws Norwy.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search