Enwoliaeth

Athroniaeth yw enwoliaeth sy'n dal taw enwau yn unig yw cysyniadau cyffredinol ac haniaethol a heb realiti sy'n cyfateb iddynt. Fe'i chyferbynnir â realaeth, yr athrawiaeth sy'n honni fod i gysyniadau hollgyffredinol fodolaeth real. Enwoliaeth oedd un o brif bynciau trafod yr ysgolwyr yn yr Oesoedd Canol, ac yn athrawiaeth a arddelid gan feddylwyr megis William o Ockham. Mae'n berthnasol i fateroliaeth ac empiriaeth fel ei gilydd ac felly o bwys i athronwyr hyd heddiw.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search