Gleidio

Gleidr Ventus 2 yn glanio tra'n gollwng dŵr sydd wedi cael ei defnyddio fel balast.

Gweithgaredd hamdden a chwaraeon cystadleuaeth rhyngwladol yw gleidio, efo peilotydd yn hedfan awyren heb beiriant. Sylweddolodd Syr George Cayley ym 1853 sut i wneud peiriant sy'n drymach na'r awyr hedfan. Datblygodd y Brodyr Wright ar hynny pan greon nhw yr awyren gyntaf wedi'i phweru gan injan.

Gleidiwr crog

Datblygodd Gleidio fel chwaraeon yn y 1920au – yn dechrau gyda hedfan am fwy o amser, ac wedyn i hedfan am fwy o bellder dros y wlad. Trwy wella dealltwriaeth o aerodynameg a'r tywydd, gellir hedfan pellach a chyflymach erbyn hyn. Mae hedfan am bellder hir iawn yn bosib trwy hedfan mewn awyr sy'n codi ac mae hedfan am fwy na 1,000 cilomedr yn bosib. Mae peilotydd yn gallu gweithio i ennill cymwysterau a bathodynnau i ddangos ei sgiliau.

Mae gleidio cystadleuol yn boblogaidd iawn hefyd efo llawer o gystadlaethau lleol a rhanbarthol ar draws y byd, gyda Cystadleuaeth y Byd bob yn ail flwyddyn.



© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search