Gwrthglerigiaeth

Cartŵn o'r papur newydd anarchaidd Brasilaidd A Lanterna[1] sy'n darlunio dyfyniad enwog am y frenhiniaeth a'r glerigiaeth: "Peth i'w wneud ar frys ydy crogi'r brenin olaf gyda pherfedd y mynach olaf" (1916).

Gwrthwynebiad i rymoedd a breintiau'r glerigiaeth ac i'r dylanwad sydd gan awdurdod crefyddol ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol yw gwrthglerigiaeth.[2]

Eginodd gwrthglerigiaeth yn y Gristionogaeth yn y 14g pryd fynnai diwygwyr mewn sawl gwlad yn Ewrop, gan gynnwys John Wycliffe yn Lloegr, gyfieithu'r Beibl i iaith y werin. Bygythiad oedd hyn i fonopoli'r eglwyswyr dysgedig ar ddarllen a dadansoddi'r ysgrythur, a chafodd ei gwrthwynebu felly gan yr Eglwys Gatholig nes y Diwygiad Protestannaidd.

Yn ystod Oes y Tuduriaid yng Nghymru a Lloegr, tyfodd gwrthglerigiaeth o ganlyniad i sawl cymhelliad. Ymledodd syniadau'r diwygwyr Protestannaidd ar draws y wlad, gan ddenu'r Saeson a'r Cymry oedd yn anfodlon â'r Eglwys Gatholig. Gwelsant y glerigiaeth yn dwyn arian oddi ar gredinwyr drwy drethi, maddeuebau, cyfrwngddarostyngedigaeth am dâl, a'r siantrïau. Y llysoedd eglwysig oedd yn meddu ar awdurdod llwyr dros athrawiaeth grefyddol a moesoldeb. Roedd y Goron a'r llywodraeth yn cenfigennu wrth rymoedd y glerigiaeth a chyfoeth yr eglwysi.

Ffrwydrodd teimladau chwyrn yn erbyn yr offeiriaid yn Ffrainc yn niwedd y 18g, ac roedd gwrthglerigiaeth yn gymaint o sbardun i'r Chwyldro Ffrengig â gweriniaetholdeb. Wedi'r cyfnod chwyldroadol, parhaodd gwrthglerigiaeth yn agwedd amlwg o radicaliaeth Ffrengig. Tyfodd gwrthwynebiad i ddylanwad gwleidyddol yr Eglwys Gatholig yn Sbaen a Phortiwgal yn y 19g, ac yn Rhyfel Cartref Sbaen (1936–9) llofruddiwyd bron 7000 o offeiriaid gan chwyldroadwyr adain-chwith yn yr hyn a elwir y Braw Coch.

  1. (Portiwgaleg) Maria Emilia Martins Pinto, "O anticlericalismo do jornal A Lanterna - mídia alternativa na era Vargas", Cultura, Cidadania e Mídias Alternativas. Adalwyd ar 19 Ebrill 2019.
  2.  gwrthglerigiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Mawrth 2019.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search