Hugh Price | |
---|---|
Ganwyd | 1495 Aberhonddu |
Bu farw | Awst 1574 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr |
Roedd Hugh Price (tua 1495–1574) yn gyfreithiwr a chlerigwr Cymreig o Aberhonddu ac yn un o brif sefydlwyr Coleg yr Iesu, Rhydychen, y coleg cyntaf i'w sefydlu yn Rhydychen ar ôl y Diwygiad Protestannaidd.[1] Cofnodir ei enw ar adegau fel 'Hugh Aprice'. Yn 1571 perswadiodd y frenhines Elisabeth I i roi siarter brenhinol i'r sefydliad a daeth hwnnw i rym ar 27 Mehefin 1571. Noda'r siarter hon mai'r frenhines yw sefydlydd y coleg, a chyfeirir at Hugh Price fel 'y noddwr cyntaf'.
Cyfrannodd yn ariannol at godi'r coleg hwnnw; ar ei farwolaeth gadawodd hefyd 100 Marc a £60 y flwyddyn (a'i lyfrgell), ar yr amod y cydnabyddir ef (yn hytrach na'r frenhines) yn 'Sefydlydd y Coleg'. Amod arall oedd ei hawl i benodi Prifathrawon, Cymrodorion a myfyrwyr i'r coleg. Pan y bu farw, rhan o'r coleg oedd wedi'i godi; cychwynwyd ar y gwaith o adeiladu'r 'cwod' yn 1571.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search