Hunan-ofal

Hunan-ofal
Enghraifft o'r canlynolGenre Edit this on Wikidata
Mathimprovement, protective factor Edit this on Wikidata

Mae technegau hunan-ofal yn newidiadau cyffredinol i’n ffordd o fyw a allai helpu ymdrin â symptomau o nifer o broblemau iechyd meddwl, yn ogystal â helpu cynnal a gwella ein lles yn gyffredinol. Mae hunan-ofal yn ddull sy’n ein helpu i fodloni ein hanghenion corfforol, emosiynol, seicolegol a chymdeithasol.

Mae Jayne Hardy, sefydlwr The Blurt Foundation, yn dadlau mai dyma’r ffordd ataliol orau o frwydro yn erbyn gorflino, straen a salwch, yn ein bywydau prysur heddiw. Ar ôl gweithio drwy’r dydd, astudio, neu ofalu am ein plant, mae’n iawn i deimlo bod angen egwyl arnoch. Gyda’r holl ddyletswyddau hyn, mae’n hawdd anghofio bod angen gofalu am ein hunain hefyd.

Mae nifer ohonom yn teimlo’n euog wrth dreulio amser arnom ni’n hunain, naill ai drwy wneud rhywbeth rydym yn ei fwynhau neu wrth ymlacio, ond mae hyn yn hanfodol er mwyn rheoli symptomau iechyd meddwl, yn ogystal â gwarchod ein lles yn gyffredinol.

Mae yna gysyniad niweidiol sy’n bodoli bod hunan-ofal yn rhywbeth diangen a bod blaenoriaethu ein hunain yn hunanol. Ond mewn gwirionedd, mae’r weithred o benodi amser i ofalu am eich hun yn eich galluogi i ddianc y cylch cythreulig o deimlo’n rhwystredig, ac yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’ch lles meddyliol.[1]

  1. "Beth yw hunan-ofal?". meddwl.org. 2021-04-30. Cyrchwyd 2022-05-04.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search