Hysbyseg

Mae hysbyseg[1] yn cynnwys gwyddorion gwybodaeth a phrosesu gwybodaeth. Mae'n astudio strwythur, ymddygiad, a rhyngweithiadau systemau naturiol ac artiffisial sydd yn storio, prosesu, a chyfathrebu gwybodaeth. Oherwydd mae cyfrifiaduron, unigolion, a chyfundrefnau i gyd yn prosesu gwybodaeth, mae gan wybodeg agweddau cyfrifiadurol, gwybyddol, a chymdeithasol. Mae'n wahanol i, ond yn gysylltiedig â, gwyddor gwybodaeth, theori gwybodaeth, cyfrifiadureg, a llyfrgellyddiaeth.

Ym 1957 bathodd y gwyddonydd cyfrifiadurol Karl Steinbuch y gair Informatik pan gyhoeddodd bapur o'r enw Informatik: Automatische Informationsverarbeitung ("Informatics: Automatic Information Processing").[2]

  1. Geiriadur yr Academi, [informatics].
  2. Coffhád Karl Steinbuch gan Bernard Widrow, Reiner Hartenstein a Robert Hecht-Nielsen. Dogfen; rhaid mewngofnodi i'r wefan cyn ei dadlwytho; adalwyd 3 Mai 2012.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search