INLA

Baner yr INLA

Y cyfieithiad Cymraeg yw Byddin Rhyddid Iwerddon Gyfan; a adnabyddir fynychaf gan flaenlythrennau'r enw Saesneg The Irish National Liberation Army neu INLA (Gwyddeleg: Arm Saoirse Náisiúnta na hÉireann). Mae'n fudiad asgell-chwith paramilitaraidd a ffurfiwyd ar 8 Rhagfyr 1974 gyda'r nod o ryddhau Gogledd Iwerddon a ffurfio un wladwriaeth Iwerddon gyfan.

Credir fod yr INLA wedi achosi 113 marwolaeth, gyda 46 ohonynt yn filwyr byddin Lloegr, 7 aelod o gyrff unoliaethol parafilwrol a dau aelod o'r Garda Síochána. Bu iddynt ladd 10 aelod o'u mudiad nhw eu hunain hefyd. Sifiliaid oedd y gweddill a laddwyd.[1]

Yn ôl yr INLA eu hunain, lladdwyd 33 aeold o'r corff.[2]

  1. (Saesneg) CAIN: Sutton Index of Deaths - Mynegai o farwolaethau
  2. (Saesneg) Gwefan yr "Irish Republican Socialist Roll of Honour" Archifwyd 2011-06-08 yn y Peiriant Wayback.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search