Llyfr, pamffled neu argrafflen a argraffwyd yn Ewrop cyn y flwyddyn 1501 yw incwnabwlwm (lluosog incwnabwla). Nid yw incwnabwla yn llawysgrifau.
Daw'r gair 'incunabwlwm' o'r Lladin am "ddillad rhwymo" neu "crud",[1] sydd yn yr achos hwn yn gyfeiriad at y camau cynharaf yn natblygiad llyfrau print.[2]
Defnyddiwyd y term incunabwla gyntaf yng nghyd-destun argraffu gan y ffisegydd a dyneiddiwr o'r Iseldiroedd Hadrianus Iunius (Adriaan de Jonghe, 1511–1575) ac mae'n ymddangos mewn gwaith a ysgrifennwyd ganddo yn 1569 ond a argraffwyd yn dilyn ei farwolaeth.[3]
Trwy gamddealltwriaeth y priodolwyd y term i Bernhard von Mallinckrodt (1591–1664) wedi iddo ddefnyddio'r union eiriau a ddefnyddiodd Hadrianus Iunius mewn pamffled a ysgrifennodd ac a argraffwyd yn 1640.[4] Ar ddiwedd y 17g y daeth y term incwnabwla i ddynodi'r llyfrau argraffiedig eu hunain, heb gynnwys llawysgrifau.
Mae'r enghreifftiau enwocaf o incwnabwla yn cynnwys dau o Mainz, sef Beibl Gutenberg (1455) a Peregrinatio in terram sanctam (1486), a argraffwyd ac a ddarluniwyd gan Erhard Reuwich; Cronicl Nuremberg a ysgrifennwyd gan Hartmann Schedel ac a argraffwyd gan Anton Koberger yn 1493; a Hypnerotomachia Poliphili a argraffwyd gan Aldus Manutius gyda darluniau gan arlunydd anhysbys.
Ymhlith argraffwyr incwnabwla eraill roedd Günther Zainer o Augsburg, Johannes Mentelin a Heinrich Eggestein o Strasbwrg, Heinrich Gran o Haguenau a William Caxton o Brugge a Llundain. Yr incwnabwlwm cyntaf i gynnwys torluniau pren oedd Der Edelstein gan Ulrich Boner, a argraffwyd gan Albrecht Pfister yn Bamberg yn 1461.[5]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search