LineageOS

LineageOS
Sgrin gartref LineageOS 14.1 yn Gymraeg
Cwmni / datblygwrCymuned cod-agored LineageOS
Rhaglennir gydaC (craidd), C++ (rhai llyfrgelloedd tryddydd parti), Java (Rhyngwyneb defnyddiwr)
Teulu SWDebyg i Unix
Cyflwr gweithioGweithredol
Model ffynhonnellCod agored
Rhyddhad sefydlog diweddarafLineageOS 16 answyddogol, yn seiliedig ar Android Pie(9.0)
Targed marchnataCadarnwedd amgen ar gyfer dyfeisiau symudol Android
Dull diweddaruFflachio ROM, OTA (Over-the-air programming)
Rheolwr pecynAPK yn seiliedig ar ystorfeydd opsiynol megis F-Droid, Amazon Appstore neu Google Play (os wedi'u gosod)
Platfformau wedi eu cynnalARM, ARM64, x86, x86-64
Math o gnewyllynMonolithic (Linux)
TrwyddedDan amryw drwydded; gellir eu gweld fesul repo ar GitHub dan ffeiliau NOTICE/LICENSE
Gwefan swyddogollineageos.org

Mae LineageOS yn system weithredu cod-agored ac am ddim ar gyfer dyfeisiau symudol, megis ffonau a llechi, ar blatfform Android.

Rhagflaenydd LineageOS oedd CyanogenMod, a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2016 pan benderfynodd CyanogenMod Inc roi'r gorau i'r prosiect. Gan fod y prosiect yn god agored, fe'i parhawyd i'w datblygu gan y gymuned dan yr enw newydd, LineageOS. Erbyn Medi 2018, roedd LineageOS ar gael yn rhyngwladol ar gyfer dros 180 o ddyfeisiau gan 24 gwahanol gwneuthurwr.[1]

  1. "Devices". LineageOS Wiki. Cyrchwyd 20 Medi 2020.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search