MDMA

MDMA
Enghraifft o'r canlynolpar o enantiomerau Edit this on Wikidata
Mathmethylenedioxyphenethylamines, amphetamines Edit this on Wikidata
Màs193.110279 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₁h₁₅no₂ edit this on wikidata
Yn cynnwyscarbon, hydrogen, nitrogen, ocsigen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Methylenedioxymethamphetamine

Mae MDMA (3,4-methylenedioxy-N-methamphetamine), sy'n cael ei adnabod yn aml fel ecstasi (neu wrth y talfyriadau E, X, neu XTC), yn aelod rhannol-synthetig o deulu'r amffetamin o gyffuriau seicoweithredol[1], yn îs-ddosbarth o'r ffenethylaminiaid.

Mae effeithiau arbrofol MDMA yn cyd-fynd a'r effeithiau a geir o'r rhan fwyaf o gyffuriau seicadelig. Caiff ei ystyried yn wahanol i gyffuriau eraill am ei fod yn creu awydd i glosio at bobl eraill a lleihad mewn teimladau o ofn a phryder. Mae'r effeithiau hyn wedi arwain at rai pobl i awgrymu efallai fod gan y cyffur fanteision therapiwtig i rai unigolion.

Cyn i ecstasi gael ei wneud yn sylwedd rheoledig, defnyddiwyd MDMA i gynorthwyo seicotherapi ond prin yw'r dogfennaeth o ganlyniadau hyn. Fodd bynnag, mae MDMA yn anghyfreithlon ymhob gwlad yn y byd o dan gytundeb yr Cenhedloedd Unedig, a gellir dwyn achos llys yn erbyn unrhyw un sy'n ei gynhyrchu, ei werthu neu sydd a'r cyffur yn eu meddiant.[2] MDMA yw un o'r cyffuriau anghyfreithlon a ddefnyddir fwyaf yn y byd [3] a chaiff ei ddefnyddio mewn ystod o amgylchiadau cwbl wahanol i ddefnydd gwreiddiol y cyffur ym myd seicotherapi. Yn aml, cysylltir ei ddefnydd a'r diwylliant "rave" a'r mathau o gerddoriaeth sy'n gysylltiedig â hynny.

Ceir cryn anghydweld ym myd gwyddoniaeth, meddygaeth a chylchoedd polisïau cyffuriau ynglŷn â pheryglon MDMA, yn enwedig y posibilrwydd o ddifrod niwrowenwynig i system nerfol canolog y corff. Mae nifer o awdurdodau rheolaethol mewn sawl lleoliad ledled y byd wedi caniatau astudiaethau lle rhoir MDMA i bobl er mwyn gweld ei botensial therapiwtig, neu yn amlach, er mwyn cael gweld ei brif effeithiau.[4]

  1. Gwefan MSD Archifwyd 2008-12-16 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 17-03-2009
  2. Where is Ecstasy legal? Adlwyd 17-03-2009
  3. Ecstacy Abuse Information Archifwyd 2009-02-15 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 17-03-2009
  4. Psychedelic Research Around The World Archifwyd 2013-12-03 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 17-03-2009

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search