![]() Ffotograff o Arch Goins a'i deulu, Melungeons o Graysville, Tennessee, yn y 1920au. | |
Enghraifft o: | grŵp ethnig ![]() |
---|---|
![]() |
Enw ar grŵp ethnig, neu sawl grŵp ethnig, amlhiliol yn rhanbarth Appalachia yn ne-ddwyrain Unol Daleithiau America yw Melungeon sydd yn disgyn o Ewropeaid, Americanwyr Brodorol, ac Affricanwyr. Yn hanesyddol, cysylltir yr enw â chymunedau yn ardal Cumberland Gap yng nghanolbarth Mynyddoedd Appalachia, yn nwyrain Tennessee, de-orllewin Virginia, a dwyrain Kentucky.[1][2]
Maent yn byw yn ardaloedd anghysbellaf a thlotaf Appalachia, ar drumiau trymion anhygyrch y mynyddoedd. Nodweddir y Melungeon gan bryd a golwg sydd yn wahanol iawn i'w cymdogion yn Appalachia, sydd yn disgyn yn bennaf o Saeson, Gwyddelod, Albanwyr, Cymry, a Sgot-Wyddelod. Yn gyffredinol, mae ganddynt lygaid glas, gwallt golau neu frown, a chyrff tenau, yn debyg i genhedloedd Gogledd Ewrop, ond gyda chroen tywyll. Mae rhai ohonynt yn edrych yn debyg iawn i genhedloedd y Môr Canoldir: gwallt tywyll a syth, a chroen melynfrown. Mae gan nifer ohonynt esgyrn uchel i'w bochau, yn debyg i'r Americanwyr Brodorol. Mae enwau teuluoedd y Melungeon, er enghraifft Brogan, Collins, a Mullins, fel arfer yn tarddu o wledydd Prydain ac Iwerddon. Mae ambell nodwedd genetig yn gyffredin ymhlith y Melungeon, gan gynnwys chwydd ar gefn y pen, ac amlfyseddogrwydd.[3]
Mae union darddiad y bobloedd Melungeon yn ansicr. Y gred gyffredinol ymhlith ysgolheigion yw mae grwpiau teir-hiliol ydynt, yn disgyn o Ewropeaid gwynion, Affricanwyr duon, ac "Indiaid Cochion" (yn benodol, llwyth y Tsierocî). Ceir sawl traddodiad lleol a choel liwgar sydd yn honni tarddiad penodol, annisgwyliedig: Tyrciaid o'r Ymerodraeth Otomanaidd, fforwyr Portiwgalaidd, neu hyd yn oed y setlwyr coll o Wladfa Roanoke. Yn ystod oes Jim Crow yn y taleithiau deheuol, cawsant eu hystyried fel arfer yn dduon, ac felly yn dioddef arwahanu.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search