Mwyar duon | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Rosaceae |
Is-deulu: | Rosoideae |
Genws: | Rubus |
Is-enws: | Rubus (neu Eubatus) |
Rhywogaethau | |
Rubus fruticosus |
Ffrwyth bwytadwy yw mwyar duon sy'n tyfu ar fiaren (neu'r Rubus fruticosus) a cheir sawl math gwahanol. Mae'r gair "mieri" yn cyfeirio at y berth pigog hwnnw yn air a glywir ar lafar gwlad yn hytrach nag yn air a ddefnyddir yn y dosbarthiad gwyddonol. Mae'n blodeuo rhwng mis Mai a mis Awst. Mae'r blodau'n wyn neu'n binc a'r ffrwythau'n ddu neu'n biws tywyll.
Gellir defnyddio'r ffrwyth i wneud jam, win neu darten. Ceir dros 375 math gwanhanol ac mae llawer ohonyn nhw'n perthyn yn agos at ei gilydd.[1]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search