Neo-geidwadaeth

Ffurf ar geidwadaeth yw neo-geidwadaeth sydd yn cyfuno nodweddion traddodiadol yr ideoleg honno gydag unigolyddiaeth wleidyddol a chefnogaeth dros y farchnad rydd. Datblygodd yn Unol Daleithiau America yn y 1970au ymysg academyddion a sylwebyddion gwrth-gomiwnyddol oedd yn anghytuno â gwrthddiwylliant y 1960au.[1] Ystyrir polisïau economaidd Ronald Reagan (Reaganomeg) a Margaret Thatcher (Thatcheriaeth) yn neo-geidwadol.

  1. (Saesneg) Neoconservatism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Mai 2018.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search