Neuralink

Neuralink
The Pioneer Building yn San Francisco, a arferai fod yn gartref i swyddfeydd Neuralink ac OpenAI
Enghraifft o'r canlynolbusnes, menter Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Dechrau/SefydluGorffennaf 2016 Edit this on Wikidata
SylfaenyddElon Musk, Jared Birchall Edit this on Wikidata
Gweithwyr300 Edit this on Wikidata
PencadlysPioneer Building, San Francisco, Califfornia Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://neuralink.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Neuralink Corp.[1] yn gwmni niwrodechnoleg Americanaidd sy'n datblygu rhyngwynebau ymennydd-cyfrifiadur y gellir eu mewnblannu (BCI). Lleolir y cwmni yn Fremont, California, ac fe'i sefydlwyd yn 2016 gan Elon Musk gyda thîm o saith gwyddonydd.[2][3][4][5]

Ers ei sefydlu, mae'r cwmni wedi cyflogi nifer o niwrowyddonwyr proffil uchel o wahanol brifysgolion.[6] Erbyn Gorffennaf 2019, roedd wedi derbyn $158 miliwn mewn cyllid (gyda $100 miliwn ohono gan Musk ei hun) ac roedd yn cyflogi staff o 90 o weithwyr.[7] Bryd hynny, cyhoeddodd Neuralink ei fod yn gweithio ar ddyfais "tebyg i beiriant gwnïo" sy'n gallu mewnblannu edafedd tenau iawn (4 i 6 μm o led[8] ) yn yr ymennydd, a dangoswyd system sy'n darllen gwybodaeth o lygoden fawr trwy 1,500 o electrodau. Ym Mai 2023, cawsant eu cymeradwyo i greu treialon dynol yn yr Unol Daleithiau.[9]

Mae'r cwmni wedi wynebu beirniadaeth am arbrofi a lladd llawer iawn o brimatiaid yn dilyn treialon mewn labordai. Roedd cofnodion milfeddygol o'r mwncïod yn dangos nifer o gymhlethdodau gydag electrodau'n cael eu mewnblannu yn eu hymennydd drwy lawdriniaeth.

  1. "NEURALINK CORP". OpenCorporates. 2016-06-21. Cyrchwyd 2023-08-02.
  2. Winkler, Rolfe (March 27, 2017). "Elon Musk Launches Neuralink to Connect Brains With Computers". Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 5, 2017. Cyrchwyd May 4, 2017.
  3. "Meet the Guys Who Sold "Neuralink" to Elon Musk without Even Realizing It". MIT Technology Review (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 19, 2021. Cyrchwyd 2022-07-19.
  4. Masunaga, Samantha (21 April 2017). "A quick guide to Elon Musk's new brain-implant company, Neuralink". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 5, 2017. Cyrchwyd May 4, 2017.
  5. Statt, Nick (March 27, 2017). "Elon Musk launches Neuralink, a venture to merge the human brain with AI". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 6, 2018. Cyrchwyd September 6, 2017.
  6. "Elon Musk's Brain Tech Startup Is Raising More Cash" (yn Saesneg). 2019-05-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 11, 2019. Cyrchwyd 2019-05-12. The company has hired away several high-profile neuroscientists
  7. Markoff, John (2019-07-16). "Elon Musk's Company Takes Baby Steps to Wiring Brains to the Internet". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 17, 2019. Cyrchwyd 2019-07-17.
  8. Elon Musk unveils Neuralink’s plans for brain-reading ‘threads’ and a robot to insert them.
  9. Sharma, Akriti; Levy, Rachel (May 25, 2023). "Elon Musk's Neuralink says has FDA approval for study of brain implants in humans". Reuters.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search