Enghraifft o: | proto-iaith ![]() |
---|---|
Math | Ieithoedd Celtaidd ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1300 CC ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Proto-Indo-Ewropeg ![]() |
Proto-iaith yw'r Broto-Gelteg, neu Gelteg Gyffredin, sef hynafiad damcaniaethol yr holl ieithoedd Celtaidd hysbys, ac un o ddisgynyddion y Broto-Indo-Ewropeg. Nid yw wedi'i hardystio'n ysgrifenedig, ond mae wedi'i hail-greu'n rhannol trwy'r dull cymharol. Credir yn gyffredinol bod Proto-Gelteg wedi cael ei siarad rhwng 1300 a 800 CC, ac wedi hynny dechreuodd iddi hollti yn ieithoedd gwahanol. Cysylltir y Broto-Gelteg yn aml â diwylliant Urnfield, ac yn arbennig â diwylliant Hallstatt. Mae ieithoedd Celtaidd yn rhannu nodweddion cyffredin ag ieithoedd Italaidd nad ydynt i’w cael mewn canghennau eraill o Indo-Ewropëeg, sy’n awgrymu'r posibilrwydd o undod ieithyddol Eidal-Geltaidd cynharach.
Ar hyn o bryd, mae Proto-Gelteg yn cael ei hail-greu trwy'r dull cymharol gan ddibynnu ar ieithoedd Celtaidd diweddarach. Er bod Celteg y Cyfandir yn cynnig llawer o gadarnhad i seinyddiaeth Broto-Geltaidd, a pheth i'w morffoleg, mae deunydd a gofnodwyd yn rhy brin i ganiatáu adluniad sicr o gystrawen. Fodd bynnag, cofnodir rhai brawddegau cyflawn yn yr Aleg Gyfandirol a'r Geltibereg. Felly, mae'r prif ffynonellau ar gyfer ail-greu yn dod o'r ieithoedd Celtaidd Ynysig, gyda'r llenyddiaeth hynaf i'w chael yn Hen Wyddeleg a Chymraeg Canol,[1] yn dyddio'n ôl i awduron o'r 6ed ganrif OC.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search